Hela gyda chwn
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cael ei feirniadu ar ôl cael codiad cyflog gan gymdeithas sy’n cefnogi hela llwynogod tra’n aelod o bwyllgor yr amgylchedd San Steffan.
Mae Simon Hart, sy’n AS dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, yn wynebu galwadau i ymddiswyddo o’i rôl ar bwyllgor yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig am fod ganddo “fuddiannau croes”.
Cafodd yr AS godiad cyflog o £10,000 ym mis Tachwedd gan y Gynghrair Cefn Gwlad, grŵp sy’n lobio i godi’r gwaharddiad ar hela llwynogod.
Golyga hyn ei fod bellach yn ennill £30,000 y flwyddyn am ei waith fel ymgynghorydd y mudiad am weithio wyth awr yr wythnos.
‘Sibrwd yng nghlust Cameron?’
“Mae’n syndod, mewn cyfnod o lymder, bod y sefydliad lobio dros hela llwynogod, y Gynghrair Cefn Gwlad, yn talu Aelod Seneddol swm anferth o arian am wasanaethau sy’n anhysbys,” meddai Tom Quinn, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd y Cynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon (League Against Cruel Sports).
“A yw’n cael ei dalu i sibrwd yng nghlust y Prif Weinidog a swyddogion eraill y Llywodraeth i’w hannog i anwybyddu barn gref y cyhoedd yn erbyn hela, ac yn lle, deddfu i dawelu’r lleiafrif dylanwadol?”
Yn ôl arolwg diweddar gan Ipsos MORI, mae 83% o bobol yng Nghymru a Lloegr yn erbyn hela llwynogod ac mae 84% o bobol cefn gwlad yn rhannu’r un farn.
Er hyn, mae’r Gynghrair Cefn Gwlad yn dweud bod y gwaharddiad yn gwneud niwed i gefn gwlad, i gymunedau gwledig ac i les anifeiliaid.
Nid oedd Simon Hart am wneud sylw ynglŷn â’r mater.