Georgia Williams
Mae ymddiriedolaeth a gafodd ei sefydlu yn dilyn llofruddiaeth merch 17 oed yn Swydd Amwythig yn 2013 yn cynnig gobaith i genedlaethau’r dyfodol, yn ôl ei mam.

Cafodd cronfa ei sefydlu yn dilyn llofruddiaeth Georgia Williams, 17, o Wellington.

Cafodd Georgia ei llofruddio gan Jamie Reynolds, 23, yn 2013 ar ôl iddo ei denu i’w gartref yn Wellington.

Cafwyd hyd i’w chorff mewn ardal goediog ger Rhuthun.

 Dywedodd Lynnette Williams, mam Georgia a chadeirydd yr ymddiriedolaeth: “Rwy’n optimistaidd am y flwyddyn nesaf.”

Mae ei merch Scarlett hefyd yn un o’r ymddiriedolwyr.

Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi’r cyfle i bobol ifanc 11-18 oed gyrraedd eu potensial a gwireddu eu breuddwydion, ac mae’n cael ei chynnal gan ddigwyddiadau cymunedol sy’n cael eu trefnu gan wirfoddolwyr.

Eisoes, mae arian o’r gronfa wedi mynd at sefydlu ysgoloriaethau antur dŵr yn ardal Telford, ac mae digwyddiadau codi arian yn cynnwys sioeau talent, teithiau beicio a rasys rhedeg.

Ymhlith y rhai sydd wedi elwa o’r gronfa mae llanc oedd wedi teithio i wlad Periw i helpu plant amddifad, ac fe greodd arddangosfa o ffotograffau wedi iddo ddychwelyd i Telford.

Ychwanegodd Lynnette Williams: “Mae hynny’n rhan bwysig o bwy rydyn ni’n dewis eu helpu – mae angen iddyn nhw roi rhywbeth yn ôl.”

Dywedodd fod gwaith yr ymddiriedolaeth yn ymgorffori ysbryd ei merch.

“Mae’n rhoi gobaith i chi. Ac mae o fudd i’r genhedlaeth nesaf – ac efallai mai dyma’r peth gorau – oherwydd mae llawer o blant gwych i’w cael, ac yn aml iawn rydyn ni’n gweld ffocws ar y rhai nad ydyn nhw’n wych.”

Beirniadu’r heddlu

Ond dywedodd Lynnette Williams bod gwendidau yn ymdriniaeth yr heddlu o ddioddefwyr troseddau ledled Prydain.

Galwodd am newid agwedd yr heddlu, neu “fe fydd mwy o Georgias yn cael eu lladd”.

Dywedodd ei bod hi a thad Georgia, Steve Williams wedi cael eu siomi gan Heddlu West Mercia wedi iddi ddod i’r amlwg bod ei llofrudd, Jamie Reynolds wedi cael rhybudd terfynol am geisio tagu merch arall yn 2008.

Mae’r cwpl wedi galw am sefydlu system gwynion annibynnol i’r heddlu wedi i bedwar o bobol gael eu cosbi am eu rhan yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Georgia yn 2008.

Cafodd y pedwar gadw eu swyddi.

Yn Llys y Goron Stafford, cafodd Reynolds ei garcharu am oes.

Roedd Reynolds wedi golygu ac addasu lluniau o Georgia a merched eraill gan roi rhaff o gwmpas eu gyddfau yn y lluniau.

Dywedodd Lynnette Williams: “Pan ddigwyddodd y cyfan, cawson ni wybod gan Heddlu West Mercia “Rydych chi i gyd yn rhan o’n teulu ni, byddwn ni’n gofalu amdanoch chi”, ond dydw i ddim yn teimlo eu bod nhw wedi gwneud hynny.”

Ychwanegodd fod nifer o unigolion wedi cael eu cosbi am geisio’u helpu nhw.

“Mae’n bosib fod gan nifer o heddluoedd Jamie Reynolds yn cuddio yn rhywle.”