Stephen Kinnock yn galw am undod
Mae dau Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi galw ar aelodau seneddol ac aelodau’r blaid i uno a chefnogi’r arweinydd Jeremy Corbyn yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae erthygl ym mhapur newydd yr Observer ddydd Sul yn gofyn i 10 o aelodau seneddol newydd y blaid beth sydd angen i Corbyn ei wneud er mwyn cynnal undod y blaid yn ystod y flwyddyn i ddod.
Ymhlith y rhai sy’n cynnig eu sylwadau mae Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock ac Aelod Seneddol Torfaen, Nick Thomas-Symonds.
Dywed Kinnock mai hon oedd y ras arweinyddiaeth “fwyaf ranedig” y gellir ei chofio.
Dywedodd: “Rhaid i’r Blaid Lafur seneddol dderbyn y ffaith fod Jeremy Corbyn wedi’i ethol gyda mandad ysgytwol, a bod angen amser a llonydd arno i’w sefydlu ei hun….”.
Ychwanegodd fod “rhaid i aelodau’r blaid ddeall mai cynrychiolwyr yw ASau, ac nid yn ddirprwyon”.
Galwodd ar y blaid i osgoi ffraeo am y posibilrwydd y gallai Jeremy Corbyn ad-drefnu ei Gabinet, gan fynegi ei wrthwynebiad yntau i unrhyw gynlluniau i ad-drefnu.
“Gadewch i ni beidio mynd yno. Byddai ein system anobeithiol o annemocrataidd, sef ‘cyntaf i’r felin’ yn tagu unrhyw rwyg o’r cychwyn, a byddai ad-drefnu, yn syml iawn, yn drysu pobol ynghylch beth yn union yw’r math newydd hwn o wleidyddiaeth wan.”
Ychwanegodd y byddai ad-drefnu’r Cabinet yn “wastraff amser ac arian”.
Mewn undod mae nerth
Galwodd Aelod Seneddol Torfaen, Nick Thomas-Symonds am undod o fewn y Blaid Lafur hefyd, gan gyfeirio at “fuddugoliaeth ysgubol” yr arweinydd Jeremy Corbyn yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Dywedodd Thomas-Symonds fod “rhaid i ni dynnu ar ddoniau ein holl aelodau yn y blynyddoedd sydd o’n blaenau”.
“Undod”, meddai, yw gair allweddol ei blaid yn ystod y flwyddyn i ddod.
“Dydy gemau rhanedig yn gwneud dim i helpu’r sawl y mae angen Llywodraeth Lafur arnyn nhw, ac mae siarad am rwygo’n ffantasi fyfiol.”
Wrth gyfeirio at ymdrechion ei blaid i atal y Ceidwadwyr rhag torri credydau treth a’r heddlu, ychwanega: “Pan ydyn ni’n cydweithio, gallwn ni wneud gwahaniaeth. Bob tro y bu Llafur yn wrthblaid, mae pobol wedi ein hwfftio ni.
“Ond rydyn ni wedi dychwelyd yn y gorffennol a gyda’n gilydd, fe fyddwn ni’n dychwelyd unwaith eto.”