Mae academydd o Brifysgol Abertawe sy’n arbenigo yng nghlefyd Alzheimer wedi galw am wella arwyddion mewn mannau cyhoeddus a siopau er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i ddioddefwyr.
Dywedodd yr Athro Andrea Tales fod dioddefwyr yn gallu teimlo fel pe baen nhw ar goll heb arwyddion, ac y byddai sticeri clir yn eu helpu.
Yn dilyn ei hawgrym, mae corff Dementia Friendly Swansea wedi galw ar 1,400 o aelodau Ffederasiwn Busnesau Bychain y ddinas i weithredu.
Mae 62% o achosion o ddementia wedi’u hachosi gan gyflwr Alzheimer, ac mae 850,000 o ddioddefwyr yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd yr Athro Andrea Tales: “Fy nod mewn gwirionedd oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion siopau a busnesau mewn mannau cyhoeddus.”
Mae Ffederasiwn Busnesau Bychain Bae Abertawe wedi dweud y byddan nhw’n hybu gweithdai er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.