Ni ddylai Prif Weinidog Prydain, David Cameron orfod ymddiswyddo pe bai Prydain yn dewis gadael yr Undeb Ewropeaidd, meddai un o Aelodau Seneddol meinciau cefn y Ceidwadwyr.

Ond dywed James Cleverly y dylai Cameron gynnig pleidlais rydd i’r Ceidwadwyr yn ystod y refferendwm.

Dywedodd Cleverly fod “dadl fawr bragmataidd” o blaid rhoi pleidlais rydd i aelodau seneddol yn y refferendwm a allai gael ei gynnal dros yr haf.

Ond wfftiodd yr awgrym y byddai’n rhaid i Cameron ymddiswyddo pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny am ei fod wedi cymryd risg o ran ei swydd ei hun er mwyn cynnal trafodaethau am ddyfodol Prydain.

Mae’n bosib y gallai’r trafodaethau hynny ddod i ben erbyn mis nesaf.

Dywed y papur newydd fod chwech o aelodau Cabinet o’r farn y dylai Cameron orfod ymddiswyddo pe bai’n colli’r bleidlais, ac y gallai’r nifer gynyddu pe na bai’n fodlon cynnig pleidlais rydd.

Mae awgrym hefyd y gallai Cameron wynebu pleidlais o ddiffyg hyder hyd yn oed pe bai’n ennill y bleidlais, ac mae perygl hefyd i swydd y Canghellor George Osborne, meddai’r papur newydd.

Yn y cyfamser, mae’r gwahaniaeth barn wedi arwain y Daily Mail i adrodd y gallai Boris Johnson gael cynnig swydd yn y Cabinet mewn ymgais i uno’r blaid.

Mae Chris Grayling a Theresa Villiers ymhlith y rhai sydd wedi dweud y bydden nhw’n ystyried gadael y Cabinet oherwydd cefnogaeth Cameron o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd James Cleverly wrth raglen Pienaar’s Politics ar y BBC: “Rwy’n credu mai’r peth mwyaf i ni, o edrych yn fewnol am eiliad, y peth mwyaf i’r Ceidwadwyr yw y bydd Ceidwadwyr ar y ddwy ochr i’r ddadl.”

Ychwanegodd: “Os ydyn ni’n cynnal ymgyrch mewn modd cyfeillgar, proffesiynol, caled ond dewr, dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam y bydd angen i unrhyw un ar y naill ochr na’r llall i’r ddadl orfod camu o’r neilltu beth bynnag am y canlyniad.”