Gall Cymru fanteisio ar ei hysbryd entrepreneuraidd er mwyn rhoi hwb i fusnesau newydd, meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth.

Daw ei ddatganiad wrth i ffigurau newydd ddatgelu bod nifer y busnesau newydd yng Nghymru ymysg yr isaf yng ngwledydd Prydain.

Cafodd 11,345 o fusnesau newydd eu sefydlu yng Nghymru yn 2015, ac mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarganfod ffyrdd newydd o helpu busnesau newydd.

Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae Plaid Cymru eisiau manteisio ar ysbryd entrepreneuraidd Cymru.

“Dengys y ffigyrau nad yw pobl yn cael eu hannog i gymryd y cam cyffrous o gychwyn eu busnesau eu hunain o gymharu â rhannau eraill y DG, ac y mae’n rhaid i ni ymdrin â’r anghysonderau a allai fod yn dal perchenogion posib busnesau yn ôl.

“Mae gan Blaid Cymru gynllun cadarn i drawsnewid economi Cymru gyda chynlluniau gan gynnwys buddsoddi mawr yn ein seilwaith; cynyddu allforion Cymru; sicrhau bod mwy o gontractau’r sector cyhoeddus yn mynd i gwmnïau Cymreig fydd yn creu degau o filoedd o swyddi newydd; yn ogystal â thorri trethi busnes i fusnesau bychain er mwyn symbylu’r sector  pwysig hwn yn ein heconomi.

“Trethi busnes yw un o’r prif achosion pryder i berchenogion busnesau. Bydd ein cynlluniau ni yn ymdrin â rhai o’r problemau yn y system bresennol, gan ostwng trethi busnes i 83,000 o fusnesau a chodi 70,000 o fusnesau allan o dalu trethi yn gyfan gwbl.”