Mae dyn 33 oed wedi marw, ac mae tri o bobol eraill wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod y gwrthdrawiad wedi digwydd 5.30yp ddoe ar Lamby Way ger Parc Tredelerch.

Fe fydd gwraig leol, 32 oed, ei chludo i’r ysbyty, ynghyd a phlentyn 3 oed. Fe ddioddefodd dyn lleol anafiadau i’w ben, ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caedydd.

Roedd car Peugeot 307 lliw glas; Mercedes Sprinter gwyn; Daihatsu Sirion a cherbyd Toyota Hilux yn rhan o’r gwrthdrawiad.