Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn marwolaeth gwraig mewn fflat yn Glasgow.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Katy Rourke, 25, yn yr adeilad yn ardal Govan tua 5yp, ddydd Mercher.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod dyn 26 oed wedi’i arestio mewn perthynas â’r farwolaeth, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl i’r dyn ymddangos gerbron Llys Siryf Glasgow ddydd Sadwrn.

Roedd Ms Rourke yn hanu o Broughty Ferry ger Dundee.