Mae Llywodraeth Cymru wedi beirniadu San Steffan am eu diffyg gweithredu yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yn ôl Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi darparu cefnogaeth ddigonol i’r bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas.

Daw hyn ar ôl i Ofgem gynyddu’r cap ar brisiau ynni.

Dywed Jane Hutt fod gweinidogion Llywodraeth Cymru “wedi galw’n gyson ar San Steffan i weithredu a helpu pobol yn ystod yr argyfwng”.

Ymhlith y camau mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i’w gweld yn cael eu cymryd mae rhewi prisiau nwy a thrydan a chodi rhagor o drethi ar gwmnïau olew a nwy.

Ddoe (dydd Iau, Awst 25), dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod “diffyg abswrd o ran arweinyddiaeth San Steffan” ar filiau ynni “yn wirioneddol anfaddeuol”.

Angen help ar bobol Cymru nawr’

“Mae hi’n argyfwng arnon ni,” meddai Jane Hutt.

“Mae cannoedd ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu’r gwymp fwyaf yn eu safonau byw ers dechrau cadw cofnod.

“Mae rhagolygon enbyd yn wynebu’r rheini sydd ar fin cael eu taflu i bwll tlodi, hyn oll wrth i ni wynebu’r ergyd driphlyg o Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n methu, cynnydd creulon yn y cap ar brisiau a’r elw mwyaf erioed yn hanes y cwmnïau olew a nwy mawr.

“Wrth i’r cwmnïau olew a nwy fwynhau’r elw uchaf erioed ar ôl blingo cwsmeriaid a manteisio ar becynnau cymorth y Llywodraeth, nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod hyd yn oed bod angen cyllideb argyfwng.

“Mae angen help ar bobol Cymru nawr.

“Mae angen cyllideb argyfwng arnon ni, mae angen rhewi prisiau nwy a thrydan nawr ac mae angen trethu’r cwmnïau olew a nwy a’u helw digynsail.

“Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar San Steffan i weithredu a helpu pobol yn ystod yr argyfwng.

“Rydyn ni wedi gofyn am ostwng y cap ar brisiau i aelwydydd incwm isel, rydyn ni wedi galw am gynnydd sylweddol yn yr ad-daliad trwy gynlluniau fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes, am adfer y taliad chwyddo o £20 yn y Credyd Cynhwysol ac am godiad cyfwerth â chwyddiant ym mudd-daliadau 2022-23 yn hytrach na ffigur CPI Medi 2021 o 3.1%.

“Mae’r hyn rydym wedi’i wneud yn mynd ran o’r ffordd i ddelio â’r problemau difrifol y mae’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn eu hwynebu, ond gwaetha’r modd, does dim clust i glywed ein cri.

“Mae perygl go iawn y gallai’r diffyg gweithredu yn San Steffan dynghedu pobol y Deyrnas Unedig i ddegawd o dlodi.

“Rhaid i ni beidio â gadael i hyn ddigwydd.”

“Diffyg abswrd o ran arweinyddiaeth San Steffan” ar filiau ynni “yn wirioneddol anfaddeuol”

Liz Saville Roberts yn galw am ddychwelyd y cap ar brisiau ynni i’w lefel cyn mis Ebrill