Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu er mwyn helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw.

Daw hyn yn wyneb y twf enfawr mewn costau byw ac ynni, wrth i Ofgem gynyddu’r cap ar brisiau ynni.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, “bydd effeithiau’r argyfwng hwn yn cael eu teimlo gan ein hysgolion lleol, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal a chymunedau ehangach”.

“Mae cynghorau yn gwneud popeth i gefnogi cymunedau lleol yng ngolwg yr heriau y bydd cyn gymaint o’n trigolion yn eu hwynebu o ganlyniad i gostau byw cynyddol,” meddai Anthony Hunt, llefarydd cyllid ac adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae dros 90% o gartrefi cymwys bellach wedi derbyn eu taliad o £150 i helpu gyda biliau ynni.

“Ond mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu ar unwaith i leddfu effeithiau’r cynnydd arswydus mewn biliau ynni ar wasanaethau lleol, busnesau lleol, a chymunedau lleol.”

‘Gweithredu ar unwaith’

“Bydd effeithiau’r argyfwng hwn yn cael eu teimlo gan ein hysgolion lleol, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal a chymunedau ehangach,” meddai Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd a llefarydd economi Llywodraeth Leol Cymru.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu nawr i sicrhau bod ein plant, pobol hŷn a’n cymunedau yn ddiogel ac yn ddiddos y gaeaf hwn a thu hwnt.

“Gall y sefyllfa yma chwyddo costau ynni ein gwasanaethau lleol i £100m eleni.

“Bydd ein busnesau lleol hefyd yn wynebu cynnydd enfawr mewn costau ynni gan eu gwneud nhw’n anghynaladwy ac anghystadleuol o gymharu â phartneriaid yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd ble mae llywodraethau yn gweithredu i amddiffyn dinasyddion a busnesau rhag codiadau dirfawr ac anhylaw mewn biliau ynni.

“Mae’n hollbwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu ar unwaith.”

 

“Diffyg abswrd o ran arweinyddiaeth San Steffan” ar filiau ynni “yn wirioneddol anfaddeuol”

Liz Saville Roberts yn galw am ddychwelyd y cap ar brisiau ynni i’w lefel cyn mis Ebrill