Mae miloedd o bobl yng Nghymru wedi bod heb gyflenwad trydan heddiw ar ôl i Storm Frank achosi difrod sylweddol dros nos.

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi parhau i achosi trafferthion ar draws y wlad.

Cafodd rhai gwasanaethau fferi eu canslo tra bod yr hen Bont Hafren a Phont Britannia yn Ynys Môn ynghau  i gerbydau uchel.

Roedd nifer o ffyrdd hefyd ynghau ar ôl i goed ddisgyn.

Mae peirianwyr wedi bod yn ceisio adfer cyflenwadau trydan i fwy na 1,400 o gartrefi – gan gynnwys 793 yn Sir Gaerfyrddin, 272 yn Sir Benfro a 207 yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Western Power Distribution ei fod wedi adfer pŵer i’r rhan fwyaf o lefydd erbyn hyn.

Meddai llefarydd: “Cafodd cyflenwadau cwsmeriaid eu heffeithio yn oriau man y bore ma oherwydd y tywydd gwael ond mae’r rhan fwyaf bellach wedi cael eu hadfer.

“Ar hyn o bryd mae tua 300 o gartrefi yn parhau i fod heb drydan – ond nid ydyn nhw i gyd yn yr un lle.

“Un o’r ardaloedd gwaethaf yw gorllewin Cymru ar hyn o bryd. Mae peirianwyr yn gweithio’n galed geisio adfer cyflenwad trydan i 200 o gartrefi.”

Yn y cyfamser mae un rhybudd am lifogydd yn parhau mewn grym yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf ac 17 o rybuddion eraill ar draws Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud bod eu gweithwyr yn sicrhau bod amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio’n iawn ac yn rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd.