Mae elusen yr RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i gath gael ei gwenwyno a’i saethu yn Nhreffynnon, Sir y Fflint cyn y Nadolig.

Dywedodd yr RSPCA bod y gath, Theo, sy’n chwech oed wedi’i darganfod yn Nhreffynnon ar 23 Rhagfyr ac wedi cael ei rhuthro at y milfeddyg.

Darganfuwyd yn ddiweddarach bod y gath wedi cael ei saethu yn ei brest gyda gwn awyr a hefyd wedi llyncu gwenwyn lladd llygod mawr.

Bu’n rhaid difa’r gath.

Dywedodd yr Arolygydd Jenny Atherton y byddai Theo wedi bod mewn llawer o boen oherwydd ei anafiadau “ac mae’n dorcalonnus meddwl beth roedd wedi’i ddioddef, ynghyd a’i berchnogion, ddyddiau’n unig cyn y Nadolig.”

Nid yw’n glir a oedd y gath wedi cael ei gwenwyno’n fwriadol neu wedi ei lyncu’n ddamweiniol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r RSPCA ar 0300 123 8018.