Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud nad oedd gweinidogion wedi torri’r Cod Gweinidogol wrth gyfarfod â pherchennog Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Daw hyn ar ôl i Mabon ap Gwynfor godi pryderon am ymweliad dau weinidog â’r ŵyl, ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu eu bod nhw yno “mewn rhinwedd bersonol”.

Yn ôl adroddiadau dros y penwythnos, aeth y gweinidogion i gartref Cathy Owens, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Deryn Consulting, i gynnal cyfarfod â Fiona Stewart, perchennog yr ŵyl, wrth i ffrae fynd rhagddi yn sgil y penderfyniad i wario £4.25m o arian cyhoeddus i brynu fferm i gynnal yr ŵyl, yn ôl WalesOnline.

Mae Cathy Owens wedi datgan fod yr ŵyl ymhlith ei chleientiaid, ac er nad oedd angen i Julie James a Jeremy Miles roi gwybod am y cyfarfod gan eu bod nhw yno mewn rhinwedd bersonol ac nid yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth, mae Mark Drakeford bellach yn awyddus i gynnal ymchwiliad i amgylchiadau’r cyfarfod ac i ystyried a oes angen newid y Cod Gweinidogol.

Fe wnaeth Mark Drakeford ofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol gynnal ymchwiliad, ac mae canlyniadau’r ymchwiliad hwnnw bellach wedi cael eu cyhoeddi.

“Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, daeth i’r casgliad nad oedd y Cod Gweinidogol wedi ei dorri gan y digwyddiad ac nad oedd yr un o’r ddau Weinidog wedi gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â phrynu Fferm Gilestone,” meddai’r datganiad.

“Er na ddisgwylir i’r naill Weinidog na’r llall wneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â Fferm Gilestone, o ystyried y risg tybiedig, ni fydd y ddau Weinidog yn gwneud unrhyw penderfyniadau ar hyn yn y dyfodol.”

Mae’r cyngor yn argymell bod gweinidogion yn derbyn canllawiau ar gyfer cysylltu neu ddod i gysylltiad â lobïwyr y tu allan i’w dyletswyddau fel gweinidogion, ac mae Mark Drakeford yn dweud y bydd yn gwneud hyn.

 

Galw am gynnwys helynt Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn yr ymchwiliad i lobïo yng Nghymru

Daw’r alwad gan Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn dilyn ffrae am gyfarfod anffurfiol rhwng gweinidogion a pherchennog yr ŵyl
Llwyfan y Mynydd, Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Gŵyl y Dyn Gwyrdd: gofyn am edrych ar amgylchiadau ymweliad dau weinidog yn Llywodraeth Cymru

Daw hyn “er bod y gweinidogion wedi mynychu’r digwyddiad cymdeithasol hwn mewn rhinwedd bersonol”