Gwella gofal profedigaeth yw un o ymrwymiadau allweddol y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle.
Heddiw (dydd Gwener, Awst 12), mae’r llwybr cyntaf mewn cyfres o lwybrau profedigaeth bwrpasol a fydd yn cefnogi pobol drwy fath arbennig o brofedigaeth yn cael ei gyhoeddi.
Bydd y llwybr pwrpasol cyntaf yn cefnogi’r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn sydyn neu mewn modd trawmatig.
Ers i’r Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol gael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy’n dod â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a nifer o elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ynghyd, wedi bod yn datblygu llwybrau pwrpasol newydd.
Bydd y llwybrau yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau dull gweithredu cyson i deuluoedd sy’n cael profedigaeth yng Nghymru.
Taith yr Eliffant
Lansiodd y Dirprwy Weinidog y Llwybr Cymorth Uniongyrchol newydd ar gyfer Marwolaeth Sydyn ac Annisgwyl mewn Plant a Phobol Ifanc hyd at 25 mlwydd oed, yn ystod Taith yr Eliffant, a gafodd ei chynnal gan yr elusen brofedigaeth, 2Wish, yng Nghaerdydd.
Cafodd y llwybr ei ddatblygu yn dilyn deiseb Rhian Mannings, Prif Weithredwr 2Wish, a dadl a ddilynodd yn y Senedd ym mis Tachwedd.
Cymerodd dros 120 o bobol ran yn Nhaith yr Eliffant ym Mharc Bute, lle ddaeth teuluoedd a ffrindiau at ei gilydd i gofio’r anwyliaid a gollwyd yn rhy gynnar.
Mae 2Wish yn rhan o’r Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol ac mae wedi cyfrannu at y fframwaith newydd.
Mae 2Wish hefyd wedi derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, i gefnogi prosiect a fydd yn sicrhau bod cymorth uniongyrchol yn cael ei gynnig i unigolion sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc.
Dechreuodd y Dirprwy Weinidog y daith gerdded ochr yn ochr â Rhian Mannings.
Yn ystod y daith, cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, gan gynnwys Steph ac Anthony Jones, rhieni Ffion; Elinor Ridout, mam William; a Jonathan a Lauren Jones, rhieni Osian.
‘Effeithio arnom ni i gyd mewn ffyrdd gwahanol’
“Mae profedigaeth yn effeithio arnom ni i gyd mewn ffyrdd gwahanol, ac rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth a gofal ar gael i bawb ledled Cymru,” meddai Lynne Neagle.
“Gan weithio’n agos gyda’r Grŵp Llywio Profedigaeth, rydyn ni’n gwneud gwelliannau i ofal profedigaeth, ac hynny’n gyflym.
“Rydyn ni am i fyrddau iechyd edrych ar y llwybrau enghreifftiol hyn, ac wrth weithio gydag asiantaethau partner, eu haddasu i anghenion eu cymunedau lleol.
“Mae 2Wish ac elusennau eraill ar draws Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol, ac wrth weithio gyda’n gilydd, gallwn gefnogi pobol drwy eu galar.”
‘Cymorth pan fo angen fwyaf’
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r llwybr,” meddai Rhian Mannings.
“Pan fydd teulu’n colli plentyn yn sydyn, mae’n hollbwysig bod cymorth yn cael ei gynnig ar unwaith.
“Ni ddylai teuluoedd orfod chwilio am help, a bydd y llwybr yn sicrhau bod teuluoedd yn cael cynnig cymorth pan fo’i angen arnynt fwyaf.
“Mae 2Wish yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd a heddlu ar draws Cymru, ac rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau’n ddyddiol. Fodd bynnag, bydd y llwybr hwn yn sicrhau na fydd unrhyw teulu yn cael ei anghofio.”