Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Be ydach chi’n estyn amdano i wella hangofyr? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru ac awdur y llyfrau Paned a Chacen, Pobi a Blasus, Elliw Gwawr sydd Ar Blât yr wythnos hon…

Roedd fy rhieni wastad yn awyddus i ni drio bwydydd newydd ac, unwaith, ar wyliau yn Ffrainc, fe archebwyd plât o falwod i’r holl blant drio. Fe fentrais roi un yn fy ngheg ond doedd o ddim yn neis ac fe boerais i o allan i’r stryd trwy ddrws ochr y bwyty… Dw i’n cofio meddwl ei fod o fel chewing gum blas garlleg. Dw i heb fwyta un ers hynny – ond mae fy table manners wedi gwella!

Elliw Gwawr, yn blentyn, gyda’i chwaer Annest, a dwy gyfnither, Esyllt a Mared

Roedd fy rhieni yn hoff iawn o goginio ac roedden ni’n bwyta bwydydd reit amrywiol o ystyried y cyfnod, er fyddai neb yn adnabod risotto dad fel unrhyw beth y byddai Eidalwyr yn eu gwneud! Roeddwn i’n gallu bod yn ffysi ar adegau ond byswn i wastad yn mwynhau gwylio a helpu yn y gegin.

Ar ôl i fy mam farw pan oeddwn yn 12, roedd rhaid i ni gymryd fwy o gyfrifoldeb ein hunain.  Er, yn aml yn y dyddiau cynnar, roedd hynny yn golygu brechdanau Dairylea, toasted sandwiches caws a beans, a Pot Noodles.

Nawr bod gen i blant dw i wrth fy modd yn cael cinio dydd Sul traddodiadol bob wythnos, fel oeddan ni yn arfer ei wneud fel teulu. Mae wedi dod yn ddefod wythnosol. A phan fo bywyd yn brysur mae’n gyfle da i bawb gael eistedd a bwyta gyda’i gilydd. Cyn belled bod gen i fwyd da, gwin da a chwmni da dw i’n hapus iawn!

Mae cacs bach (cacennau cri/pice ar y maen, i bawb arall!) cartref fy nhad neu fy modryb Llinos wastad yn dod ag atgofion melys yn ôl o fy mhlentyndod. Rysáit fy mam-gu ydi o, a does dim i’w guro. Roeddwn i wastad yn cynnig helpu eu gwneud ac yn dwyn y toes amrwd i’w fwyta yn slei bach.

Dw i’n siŵr o wneud cacen os oes yna bobl yn dod draw. Dw i wrth fy modd yn pobi, ond mae cacen fawr yn ormod i ni fwyta ar ein pen ein hunain felly dw i’n bachu ar y cyfle i wneud cacen neu darten arbennig os oes gen i gwmni.

Bydd unrhyw un sy’n adnabod Dolgellau [lle cafodd Elliw ei magu] yn gwybod am yr hyni byns enwog oedd yn cael eu gwerthu ym Mhopty’r Dref. Y toes melys, meddal yn llawn siwgr a menyn. Maen nhw’n arbennig iawn i’r dre ac roeddwn i’n hapus iawn i greu rysáit, sy’n dod mor agos â phosib i’r byns gwreiddiol. Dw i wrth fy modd yn gallu gwneud rhain adref rŵan. Dyma’r rysáit mae pobl wastad yn holi amdano.

Yr Hyni Byns

Rysáit Hyni Byns

Cynhwysion

100g menyn

300ml llaeth

600g blawd bara cryf

100g siwgr caster

2 baced 7g o furum sych

1 llwy de halen

1 wy

Ar gyfer y llenwad

150g menyn meddal

150g siwgr brown

Dull

Toddwch y menyn mewn sosban, ac ychwanegwch y llaeth. Cynheswch i 37°C, os nad oes gennych

thermomedr, dylai fod yn gynnes ond ddim yn boeth. Os ydych yn gallu gadael eich bys ynddo, fe

ddylai fod yn iawn, ond gofalwch nad yw’n rhy boeth gan y bydd yn lladd y burum.

Mewn powlen fawr, cymysgwch y blawd, siwgr, halen a’r burum. Yna ychwanegwch yr wy ac yna’r

llaeth a’r menyn a’i gymysgu. Ar y pwynt yma fe fydd yn does reit wlyb.

Rhowch ychydig bach o flawd (dim gormod) neu olew ar eich bwrdd a thylinwch y toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn neu, os oes gennych un, defnyddiwch y bachyn tylino ar eich peiriant cymysgu.

Rhowch y toes mewn bowlen wedi ei iro gydag olew a gorchuddiwch gyda haenen cling. Gadewch i’r

toes godi mewn rhywle cynnes am awr.

Ar ôl i’r toes ddyblu mewn maint, cynheswch y popty i 200C / 180C ffan.

Cymysgwch y menyn a’r siwgr nes ei fod yn bast meddal a rhannwch y toes mewn i 8-10 darn.

Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch un o’r darnau mewn i siâp petryal. Gosodwch

lond llwy de o’r menyn a siwgr yn y canol a phlygwch y toes yn ei hanner, gan ddod a’r ochrau byrraf

at ei gilydd. Defnyddiwch eich bawd i bwyso’r toes i lawr yn galed ar y gornel agosaf atoch.

Nawr rhowch lwyaid arall o’r menyn a’r siwgr yn y canol a phlygwch y toes tuag atoch chi i ffurfio

triongl. Eto pwyswch y gornel i lawr yn galed gydag eich bawd.

Gosodwch y byns ar ddau hambwrdd pobi wedi ei leinio gyda phapur gwrthsaim a brwsiwch y topiau gydag wy wedi’i guro.

Pobwch am 15-20 munud nes eu bod nhw’n dechrau brownio.

Gadewch i oeri ac ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.