Y llifogydd yn Tadcaster, yng ngogledd Swydd Efrog
Mae Storm Frank wedi achosi problemau a difrod sylweddol dros nos yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU wrth i wyntoedd hyrddio hyd at 70mya.
Fe fu tua 900 o gartrefi yng Nghymru heb gyflenwad trydan y bore ma yn sgil y gwyntoedd cryfion. Sir Benfro gafodd ei effeithio fwyaf ac mae Western Power Distribution yn dweud eu bod bellach wedi llwyddo i adfer y cyflenwad i’r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau yn Ninbych y Pysgod, Penalun, Tyddewi, a Breudeth.
Roedd rhai cartrefi yng Ngheredigion hefyd wedi colli eu cyflenwad trydan a Llanberis.
Mae ’na rybudd i gymryd gofal ar y ffyrdd gan y gallai’r amgylchiadau gyrru fod yn anodd. Mae nifer o ffyrdd hefyd ynghau ar ol i goed ddisgyn.
Ar yr M48 mae hen Bont Hafren wedi cau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion. Mae’r traffig yn cael ei arallgyfeirio.
Yn Ynys Môn mae coed wedi syrthio yn Llansadwrn ac ym Mhenmynydd, ac mae Pont Britannia ar yr A55 ynghau i gerbydau uchel gyda chyfyngiad cyflymder o 20mya. Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro hefyd ynghau i gerbydau uchel.
Dywed Heddlu’r Gogledd bod ceblau trydan wedi disgyn ym Methesda oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Mae cwmnïau trenau Arriva a Virgin Trains yn rhybuddio bod ’na oedi o hyd at 20 munud i wasanaethau trên rhwng Caergybi a Chyffordd Llandudno oherwydd cyfyngiad cyflymder yn sgil y gwyntoedd cryfion. Mae disgwyl i’r cyfygniad fod mewn grym tan o leiaf 10.30yh heno.
Mae disgwyl i CNC gyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd heddiw, a gallai ffyrdd gael eu cau wrth i ddraeniau gael trafferth i ymdopi â chymaint o ddŵr. Mae un rhybydd am lifogydd mewn grym ar hyn o bryd yn Nyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Threfalyn.
Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw golwg ar newyddion lleol a rhagolygon y tywydd er mwyn cael y diweddaraf am unrhyw broblemau yn eu hardal, ac osgoi gyrru trwy lifddwr.
‘Cymryd gofal’
Meddai Donna Littlechild, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: “Rydym yn gofyn i bobl gymryd gofal ac edrych yn rheolaidd ar ein hysbysiadau a’n rhybuddion llifogydd. Caiff y rhain eu diweddaru bob 15 munud ar ein map rhybuddion llifogydd byw ar ein gwefan.
“Gall pobl ddarganfod a ydynt mewn perygl o ddioddef llifogydd, neu gallant gofrestru gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd rhad ac am ddim trwy ymweld â’n gwefan neu ffonio Floodline ar 0345 988 1188.
“Dylai unrhyw un sy’n gyrru fod yn arbennig o ofalus gan y bydd yna lawer o ddŵr ar y ffyrdd.”
Gellir cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy gyfrwng cyfrif twitter Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd: @natreswales.
Gweddill y DU
Yng ngogledd Iwerddon bu mwy na 2,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan dros nos ac mae ’na oedi i deithwyr ym maes awyr Belfast gyda rhai teithiau’n cael eu dargyfeirio i Ddulyn.
Yn yr Alban, mae hyd at 5,500 o gartrefi heb gyflenwad trydan.
Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi achosi rhagor o ddifrod i lefydd sydd eisoes wedi’u heffeithio gan lifogydd dros y Nadolig.
Yn Tadcaster yng ngogledd Swydd Efrog roedd pont hynafol dros Afon Wharfe wedi dymchwel a chafodd pobl eu symud o’u cartrefi oherwydd pryderon bod nwy yn gollwng.