Dyw tro pedol Liz Truss ar gynlluniau i dorri cyflogau gweithwyr y sector gyhoeddus yn “twyllo neb”, yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Daw hyn ar ôl i’r ffefryn i olynu Boris Johnson fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ddweud y byddai hi’n torri cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer staff y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr pe bai hi’n ennill yr arweinyddiaeth.
Fodd bynnag, yn dilyn ymateb ffyrnig, cyhoeddodd Liz Truss na fyddai hi’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau pe bai hi’n cael ei hethol yn Brif Weinidog.
‘Ras i’r gwaelod’
Dywed Liz Saville Roberts y byddai’r cynlluniau wedi bod yn gyfystyr ag ymosodiad llwyr ar weithwyr Cymru.
“Mae ymgyrch arweinyddiaeth y Torïaid wedi bod yn ras tuag at eithafiaeth asgell dde,” meddai.
“Mae’r ddau ymgeisydd wedi cymryd pob cyfle i brofi cyn lleied maen nhw’n deall anghenion pobol, yn enwedig yng Nghymru.
“Bydd pobol sy’n dioddef dan gostau byw, gweithwyr rheng flaen yng Nghymru fel nyrsys ac athrawon, yn edrych ar ras i’r gwaelod y Torïaid ac yn gweld eu bod nhw’n werth llai i’r Torïaid na gweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
“Trwy eu gweithredoedd, mae’r Torïaid yn parhau i ddadlau’r achos dros annibyniaeth, tra byddwn ni ym Mhlaid Cymru bob amser yn amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru.
“Fel yr ydym wedi dangos yn y streiciau diweddar, mae Plaid Cymru yn sefyll gyda’n gweithwyr rheng flaen, ac fe fyddwn yn parhau i frwydro dros eu hawliau.”