Mae Plaid Cymru wedi lansio cynllun cefnogwyr newydd, ‘Cyfeillion Plaid’, i alluogi pobol i gefnogi’r Blaid am £5 y flwyddyn.

Wrth lansio’r cynllun ar stondin y Blaid ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai’r cynllun yn rhoi’r cyfle i bobol gefnogi’r mudiad.

Gobaith y Blaid yw y bydd y sawl sy’n dangos diddordeb yn ymaelodi fel aelodau llawn maes o law.

“Mae dros 220,000 o bobol yn pleidleisio dros y Blaid mewn etholiadau, ond dyw’r mwyafrif ddim yn aelodau o’r mudiad – bwriad cynllun ‘Cyfeillion Plaid’ yw dechrau newid hynny,” meddai Adam Price.

“Cryfder ein plaid yw ei phobol a gyda phob aelod neu gefnogwr newydd, mae ein gallu i weithio’n glyfrach dros ein mudiad a dros ein gwlad yn tyfu.

“Rydym eisiau denu’r bobol hynny sy’n chwilfrydig am y Blaid ac yn pleidleisio iddi mewn unrhyw etholiad a rhoi’r profiad iddynt o fod yn rhan o fudiad sy’n arddel polisïau blaengar a gweledigaeth gyffrous dros Gymru.”

‘Cyfnod cyffrous i Blaid Cymru’

Ychwanegodd Dafydd Iwan, cyn-lywydd y Blaid oedd yn arwain lansiad y cynllun yn yr Eisteddfod, fod “hwn yn gyfnod cyffrous dros ben i Blaid Cymru”.

“Mae’r mudiad annibyniaeth yn mynd o nerth i nerth ac mae mwy o bobol nag erioed yn chwilfrydig am y syniad o’n cenedl yn sefyll ar ei thraed ei hun,” meddai.

“Gwn fod miloedd o bobol nad sy’n aelodau o’r Blaid yn rhannu ein gweledigaeth o Gymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus, ac rwy’n gobeithio y bydd cynllun Cyfeillion Plaid yn agor y drws iddynt ddod yn rhan lawnach o’n mudiad.

“Byddwn yn annog pawb sydd un ai wedi uniaethu gyda pholisïau a gweledigaeth y Blaid neu wedi pleidleisio drosti ar unrhyw bwynt i fanteisio ar y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth a newid Cymru er gwell.”