Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n cyhuddo Liz Truss, un o’r ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac yn Brif Weinidog nesa’r Deyrnas Unedig, o geisio gwneud Cymru’n dlotach, gan ddweud bod y ras am arweinyddiaeth y blaid yn “ras tua’r gwaelod”.
Daw hyn yn dilyn addewid yr Ysgrifennydd Tramor presennol y byddai hi’n torri cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer staff y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr pe bai hi’n ennill yr arweinyddiaeth.
Mae’n dweud y byddai ei chynllun yn arbed £8.8bn ac y byddai’n berthnasol i’r gwasanaeth sifil yn y lle cyntaf ond y gellid ei ymestyn i weithwyr sector cyhoeddus maes o law.
Byddai Cymru’n cael ei tharo’n arbennig o galed gan y polisi, gan mai gweithwyr Cymru sy’n derbyn y cyflogau isaf ar gyfartaledd o blith gwledydd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
‘Talu’r pris’
“Ras tua’r gwaelod ydi’r gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ac edrych yn debygol fod y cyhoedd yng Nghymru am dalu pris anallu ariannol y Blaid Geidwadol,” meddai Jane Dodds.
“Mae hi’n anghredadwy, yn hytrach na chodi’r gwastad yng Nghymru, fod Liz Truss bellach yn siarad am dorri cyflogau miloedd o weithwyr yng Nghymru sy’n gweithio’n galed yn ystod argyfwng costau byw sydd allan o reolaeth.
“Mae’r 430,000 o filwyr, plismyn a gweision sifil yng Nghymru’n haeddu gwell na’r cynnig oeraidd, analluog a gwarthus hwn.
“Daw hyn ar ôl i Liz Truss werthu ffermwyr Cymru allan ar ôl ei chytundebau masnach yn Awstralia a Seland Newydd.
“Gwleidyddiaeth gas ydi hyn gan y blaid gas.
“Rhwng Liz Truss a Rishi Sunak, mae’r Blaid Geidwadol wedi methu â chyflwyno unrhyw gynllun i helpu pobol drwy’r argyfwng costau byw ac rŵan, wrth i ni fynd i mewn i’r hyn sydd am fod yn aeaf eithriadol o anodd i’r rhan fwyaf, mae Truss eisiau cipio arian oddi ar deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.
“Nid yn unig y bydd hyn yn cael effaith ar weision cyhoeddus, ond fe fydd hefyd yn cael effaith ar yr economi leol maen nhw’n gweithio ynddi gyda’r rheiny sydd wedi’u heffeithio’n profi llai o rym gwario i’w roi yn ôl mewn busnesau lleol.
“Mae hyn heb hyd yn oed ystyried goblygiadau posib y polisi hwn ar Fformiwla Barnett sy’n cael ei roi i Gymru i’w wario ar nyrsys ac athrawon.”