Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod adroddiad sy’n nodi pwysigrwydd pris fel ffactor wrth ddewis lleoliad ar gyfer gwyliau yn dystiolaeth bellach na ddylid cyflwyno treth dwristiaeth yng Nghymru.

Yn ôl y blaid, dyma’r amser gwaethaf posib i gyflwyno’r dreth.

Daw hyn wrth i Croeso Cymru gyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at effaith yr argyfwng costau byw ar benderfyniadau pobol o ran ble i fynd ar eu gwyliau.

Mae ‘gwerth gwych am arian’ ar frig rhestr flaenoriaethau pobol sy’n mynd ar eu gwyliau yn y wlad hon yn ystod y 12 mis nesaf.

Mae 67% o’r farchnad wyliau gartref yn teimlo bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol arnyn nhw.

Dywed yr adroddiad mai llety rhad yw un o’r prif ffactorau sy’n denu twristiaid i Gymru, ond fe fydd y dreth dwristiaeth yn codi’r pris.

Yn ôl yr arolwg, mae tri ym mhob pump o bobol yn y farchnad wyliau yn y Deyrnas Unedig wedi cael gwyliau neu wyliau byr yng Nghymru ac yn bwriadu dod eto, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni bod y dreth dwristiaeth am droi pobol i ffwrdd.

Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Gynghrair Dwristiaeth, UKHospitality a Chymdeithas Hunanarlwywyr Proffesiynol y Deyrnas Unedig wedi mynegi pryderon tebyg.

Mae’r Llywodraeth Lafur wedi dyblu nifer y diwrnodau sy’n rhaid i lety hunanarlwyo fod ar gael er mwyn osgoi talu’r dreth dwristiaeth, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod hynny’n “ymosodiad” ar gefn gwlad Cymru.

‘Pryderon dealladwy’

“Mae Llafur wedi mynnu cyflwyno treth dwristiaeth a fydd, gyda chwyddiant yn codi, ond yn gallu gwaethygu safle Cymru fel lleoliad twristaidd deniadol,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’n galonogol clywed bod Cymru’n dal i fod yn gyrchfan twristaidd annwyl iawn gan bobol sy’n dod ar eu gwyliau, ond mae’r pryderon dealladwy sydd wedi’u codi o ran cost ymweliadau’n frawychus o ystyried cynlluniau Llafur i’w codi nhw ymhellach gyda’r ardreth hon.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’n gryf gyflwyno treth dwristiaeth sy’n cynrychioli methiant polisi arall gan Lafur, gan siomi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru unwaith eto.

“O ystyried fod un ym mhob saith o swyddi’n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth, bydd y dreth hon yn rhoi bywoliaethau yn y fantol.

“Mae’r amseru’n anghywir, a dylid dileu’r polisi.”