Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn gwobr Cyflogwr Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron gan Brifysgol Aberystwyth.

Maen nhw wedi derbyn y wobr yn sgil ymdrechion eu staff i ddysgu’r iaith ac am eu parodrwydd i annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg.

Maen nhw wedi datblygu’r brand ‘Rho Gynnig Arni’ a chyfres o adnoddau i helpu staff a dysgwyr i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y gweithle.

Un o’r 150 sydd wedi elwa ar y gwersi yw Jane Westlake, sy’n gweithio mewn canolfan frechu.

“Pan dw i’n gweithio yn y Ganolfan Frechu, mae’r cleifion yn dod i mewn i adeilad anarferol ac maen nhw’n ofnus achos COVID,” meddai.

“Mae’n well i mi siarad â nhw’n eu mamiaith i drio eu helpu nhw i ymlacio a theimlo’n ddiogel.”

‘Hynod o falch’

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn hynod o falch i dderbyn y wobr hon heddiw,” meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae cefnogi ein dysgwyr yn un o’r nodau o fewn ein Polisi Sgiliau Dwyieithog, wrth i ni geisio cynyddu’r nifer o staff sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg gyda’n defnyddwyr gwasanaeth ac ar yr un pryd, cyfrannu at nod strategol Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr.”

Mae’r Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wedi llongyfarch pawb ar eu llwyddiant a’u hymdrechion.

“Hoffwn i ddiolch i bawb am wneud yr ymdrech honno, ac am fod mor frwdfrydig eich ymdrechion,” meddai.

“Mae iaith unigryw Cymru yn drysor cenedlaethol arbennig, ac yn rhodd i bawb sydd yn byw yma.

“Rydym ni hefyd yn arbennig o ddiolchgar i’r tiwtoriaid sydd wedi helpu cynifer o ddysgwyr ar hyd y blynyddoedd.

“Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith rhagorol, ac i bawb yn y tîm Dysgu Cymraeg.”

Mae Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, gyda darpariaeth benodol i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac i deuluoedd.