Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi croesawu dros £690,000 o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throseddau, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi.

Mae prosiect Tref Caergybi wedi derbyn £692,149 gan y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel i fynd tuag at brosiectau megis adeiladu 21 camera teledu cylch cyfyng a phecynnau atal troseddu ar gyfer 250 adeilad.

Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at sefydlu patrolau heddlu amlwg er mwyn ceisio mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae gwelliannau i oleuadau stryd hefyd yn rhan o’r pecyn.

Ysgrifennodd Virginia Crosbie at y Gweinidog Plismona ar y pryd, Kit Malthouse, ym mis Mai yn cefnogi’r cais.

“Mae’r heddlu lleol yn gwneud gwaith ardderchog gyda’r adnoddau sydd ganddynt, ond mae Ynys Môn yn gymysgedd heriol a chymhleth o gymunedau,” meddai yn y llythyr.

“Mae adnoddau’n cael eu lledaenu dros ardal fawr ac mae angen i lefydd fel Caergybi gael cymorth plismona dwys iawn.”

‘Gwneud bywydau’n well’

“Rwyf wrth fy modd bod y swm sylweddol yma o arian yn dod i Gaergybi i ymladd yn erbyn troseddau ac i wneud i drigolion, yn enwedig merched, deimlo’n ddiogel,” meddai Virginia Crosbie yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â’r cyllid.

“Mae hwn yn fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ein cymunedau yma ar yr ynys i wneud bywydau’n well a dw i wir yn croesawu’r ffaith bod y Swyddfa Gartref wedi caniatáu i’r arian yma gael ei ddarparu oherwydd bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”