Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi “gofid difrodol” ynglŷn â gofal plant yng Nghymru, gan alw am adolygiad.

Marwolaeth Logan Mwangi ym mis Gorffennaf 2021 sydd wedi sbarduno’r alwad, gyda’r blaid yn dweud bod angen adolygiad er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr fis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd ei fam a’i lystad, a llanc yn ei arddegau, eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i garchar am oes am lofruddio’r bachgen pump oed ar Fehefin 30.

Yn y cyfamser, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud bod angen “gweithredu ar frys” o ran gwasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr, y sir lle cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan aelodau o’r teulu.

‘Hanfodol’

“Roedd llofruddiaeth Logan yn drasiedi a rhaid i lunwyr polisïau sicrhau nad yw’r fath beth yn gallu digwydd eto, ac o ystyried mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig, yna mae adolygiad yn synhwyrol a hanfodol,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru’n gwadu cyfrifoldeb gan fynnu nad oes angen gwneud unrhyw beth, a hynny pan fo holl wledydd eraill Prydain yn cynnal adolygiad, yn peryglu bywydau.

“Mae’n amlwg bod problemau yn dal yn bresennol ym Mhen-y-bont – rhywbeth ddylai fod wedi’i ddatrys erbyn hyn – ond mae angen gwybod ble arall yng Nghymru mae angen gwelliant sylweddol hefyd.

“Mae yna amser o hyd i Mark Drakeford newid ei feddwl a gweithredu’r adolygiad rydyn ni’n galw amdano.”