Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi cynllun newydd i ddarparu cynnig rhagweithiol o ofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae cynllunio’r gweithlu, hyfforddi staff, systemau digidol a newid y diwylliant yn elfennau allweddol o’r cynllun gweithredu pum mlynedd Mwy na geiriau, sy’n gweithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bawb sy’n dymuno ei gael.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan grŵp o arbenigwyr, yn dilyn gwerthusiad annibynnol o gynllun pum mlynedd gyntaf Mwy na geiriau.
O dan gadeiryddiaeth Marian Wyn Jones, ystyriodd y grŵp brofiad cleifion a thystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol, a’r sectorau addysg a hyfforddiant.
Mae’r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu, o dan bedair thema:
- Diwylliant ac arweinyddiaeth
- Cynllunio a pholisïau o ran y Gymraeg
- Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu
- Rhannu arfer da
‘Cyfforddus yn eu hiaith eu hunain’
“Pan fydd pobl yn derbyn gofal neu’n ceisio’i drefnu, fel arfer dyna’r adeg pan fyddan nhw fwyaf bregus,” meddai Eluned Morgan.
“Felly, mae bod yn gyfforddus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig.
“Yn ôl ein gwaith ymchwil, i lawer o siaradwyr Cymraeg, roedd gallu cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwella’u profiad cyffredinol yn sylweddol.
“Mewn llawer o achosion, roedd hynny’n gwella’u canlyniadau o ran iechyd a lles.
“Dangosodd ein hymchwil hefyd fod pobol yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gwasanaethau yn y Gymraeg, a’u bod yn amharod i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
“Wrth wraidd ein strategaeth mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol.
“Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach nag ar y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt.
“Er bod cynnydd wedi’i wneud ers lansio ein cynllun gwreiddiol bum mlynedd yn ôl, bellach mae angen inni gynnig mwy, yn gyflymach, er mwyn cyflawni’r cynnig hwnnw.”
Angen sensitifrwydd i lwyth gwaith y staff
Gyda bron i 200,000 o staff yn gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae’n bwysig bod y strategaeth yn sensitif i lwyth gwaith y staff, yn ôl Eluned Morgan, sydd wedi bod yn siarad â golwg360.
“Maen nhw wedi bod yn gweithio mor galed dros y ddwy flynedd diwethaf,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod lot o ewyllys da eisoes gyda’r staff ond beth sy’n bwysig i gofio gyda’r staff yn gyffredinol yw mai eu diddordeb nhw yw’r canlyniadau gorau ar gyfer eu cleifion.
“Beth ni’n gwybod – os mae pobol yn cael eu trin yn eu hiaith gyntaf, mae’r canlyniadau’n debygol o fod yn well oherwydd maen nhw’n deall mwy, ac yn sicr pan mae’n dod at iechyd meddwl pobol ifanc.
“Byddwn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a bydd cyfle i wneud stwff ar-lein a bydd rhai’n cael eu rhyddhau i wneud cyrsiau.
“Felly bydd pobol yn gwneud o’n wahanol a’r syniad yw bod pobol yn dysgu o’r arfer gorau ar draws Cymru.”
Cyfrannu at filiwn o siaradwyr
Dywed Eluned Morgan fod y strategaeth hefyd yn gyfle arbennig i arwain y ffordd wrth gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith eithriadol yn ystod y pandemig, ac maen nhw’n parhau i weithio o dan bwysau mawr,” meddai.
“Maen nhw’n angerddol ynglŷn â darparu’r gofal gorau posib i bobl yng Nghymru – i siaradwyr Cymraeg, mae hynny’n golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg.
“Drwy gydweithio, rwy’n siŵr y gallwn ni i gyd wireddu uchelgeisiau’r cynllun hwn.”