Mae Cymru’n paratoi am ragor o law trwm a gwyntoedd cryfion heno wrth i Storm Frank symud tua’r wlad.
Mae disgwyl gwyntoedd hyd at 70mya a 60mm o law dros nos a bore dydd Mercher, ddyddiau’n unig ar ôl i law trwm achosi llifogydd a chau ffyrdd mewn nifer o lefydd.
Yng Ngwynedd ac Ynys Môn mae pobl wedi cael eu symud o’u cartrefi yn dilyn llifogydd.
Un rhybudd o lifogydd posib sydd mewn grym ar hyn o bryd, yn Nyfrdwy Isaf ger Llangollen ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori pobl i gadw golwg ar y sefyllfa, yn enwedig os ydyn nhw’n bwriadu teithio.
Mae ffyrdd yng Ngwynedd wedi dechrau ail-agor ar ôl i Afon Gwyrfai, Seiont a Llyfni orlifo’u glannau.
Ar y rheilffyrdd fe fydd y gwasanaeth trenau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn aros ynghau tan o leiaf 4 Ionawr yn dilyn llifogydd. Mae gwasanaeth bws yn cael ei ddarparu i deithwyr.
‘Ail-edrych’
Yn y cyfamser mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud bod angen “ail-edrych” ar y paratoadau ar gyfer llifogydd wrth i Storm Frank fygwth achosi rhagor o ddifrod dros nos.
Mae David Cameron wedi amddiffyn y gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd wrth iddo gwrdd â phobl yng Nghaerefrog ddoe sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd.
Dywedodd y Prif Weinidog bod yr arian sy’n cael ei roi ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd yn cynyddu. Fe wfftiodd awgrym gan arweinydd cyngor yn Leeds bod gogledd Lloegr yn cael ei anwybyddu, a bod mwy yn cael ei wario yn y de.
Ond mae David Cameron wedi cydnabod bod angen adolygu’r gwariant yn sgil y llifogydd diweddar.
Mae’r Llywodraeth wedi gorchymyn adolygiad o’r strategaeth atal llifogydd ar ôl i 500 o filwyr gael eu hanfon i roi cymorth i filoedd o bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Dywedodd prif weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd David Rooke y byddai’n rhaid ail-edrych ar amddiffynfeydd traddodiadol yn ogystal â ffyrdd o adeiladu cartrefi sy’n gallu gwrthsefyll llifogydd.
Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi galw am asesiad annibynnol i wariant ar amddiffynfeydd llifogydd ac mae arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett wedi dweud bod ymateb y Prif Weinidog yn “hollol annigonol” ac yn dangos nad yw “wedi sylweddoli realiti’r newid hinsawdd rydym yn ei brofi.”