Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi adroddiad er lles y cyhoedd sy’n nodi methiannau yn y gofal gafodd dynes ag anableddau dysgu cyn ei marwolaeth.

Yn ôl cwyn gan chwaer y ddynes, roedd hi yng ngofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd ganddi anableddau dysgu a hanes o ddibyniaeth ar alcohol, ac roedd y Cyngor wedi ei symud hi i lety o dan  reolaeth darparwr allanol er mwyn iddi gael cefnogaeth i fyw’n annibynnol.

Roedd ei chwaer yn anhapus fod y darparwr wedi oedi cyn rhoi gwybod i’r Cyngor am eu pryderon ynghylch ei hymddygiad, a phan gysylltodd y darparwr â’r Cyngor, doedd dim modd cael cefnogaeth iddi.

Bu farw fis Ebrill 2020, ac mae’r Ombwdsmon wedi derbyn bod sail i’r gwyn, gan nad oedd y darparwr wedi mynd at y Cyngor yn ddigon buan, ac nad oedd y Cyngor wedi rheoli’r gofal roedden nhw’n ei roi pan waethygodd y sefyllfa.

Daeth i’r casgliad hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymchwilio i’r cyfleoedd i roi gwybodaeth i chwaer y ddynes yn eu gofal am ei chyflwr.

Ac fe ddaeth i’r casgliad fod yna fethiannau o ran y ffordd y gwnaeth y Cyngor ymdrin â’r gwyn, gan nad oedd casgliadau ymchwilydd annibynnol wedi’u cynnwys yng nghasgliadau’r ymchwiliad nac wedi cael eu rhannu â chwaer y ddynes.

‘Achos trist o anghyfiawnder difrifol’

“Mae hwn yn achos trist o anghyfiawnder difrifol, ac rydym yn estyn ein cymdymdeimlad i’r teulu,” meddai’r Ombwdsmon Michelle Morris.

“Rydym yn cydnabod pan fu farw Ms Y fod y pandemig Covid-19 eisoes wedi rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau’r Cyngor.

“Fodd bynnag, fe wnaethon ni benderfynu, o ystyried bod Ms Y yn oedolyn bregus a chanddi hanes o ddibyniaeth ar alcohol y gwyddom amdano, y dylid fod wedi cynyddu’r pryderon am ei chyflwr yn gynt, a dylai’r Cyngor fod wedi cynnig cefnogaeth pan waethygodd y sefyllfa yn y pen draw.

“Mae ein hadroddiad yn glir na allwn ni wybod a fyddai ymyrraeth gynt gan y Cyngor wedi newid y canlyniad trist i Ms Y.

“Fodd bynnag, rydym hefyd yn glir fod sawl cyfle i ymyrryd wedi’u colli.

“Un o’r cyfleoedd hynny oedd sicrhau bod gan Ms Y bob cyfle i dderbyn cefnogaeth gan ei theulu.

“Yn drist iawn, daethom i’r casgliad oherwydd nad oedd y Cyngor wedi ceisio caniatâd Ms Y ynghylch rhannu gwybodaeth gyda’i theulu, nad oedd ei chwaer yn ymwybodol o gyflwr Ms Y ac yn methu estyn y gefnogaeth honno.

“Roeddem hefyd yn gofidio ynghylch sut y cafodd cwyn Mrs X i’r Cyngor ei hystyried a’i rheoli.

“Mae’r methiannau y gwaethon ni eu nodi yn y broses honno’n codi cwestiynau ynghylch pa mor gadarn oedd yr ymchwiliad a’i gasgliadau.

“Er nad oedd y Cyngor yn darparu gofal uniongyrchol o ddydd i ddydd i Ms Y, fel y corff oedd â chyfrifoldeb ar y cyfan am gyflwyno’i swyddogaethau gofal cymdeithasol, roedd y Cyngor yn gyfrifol am y methiannau.

“Rydym yn croesawu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach wedi derbyn y canlyniadau a’r casgliadau hyn ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion yn llawn.”

Argymhellion

Mae’r Ombwdsmon wedi argymell fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnig ymddiheuriad ystyrlon i Mrs X am y methiannau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac yn:

  • gweithredu pob cam a gafodd eu nodi yn ystod ymchwiliad y Cyngor i’r gwyn wreiddiol gan Mrs X
  • yn atgoffa’r sawl y mae ganddyn nhw gytundebau â nhw i gynnal ymchwiliadau annibynnol ar eu rhan i sicrhau bod unrhyw gasgliadau neu feirniadaeth o’r gwasanaeth sydd wedi’i ddarparu i gleient yn cael eu hadlewyrchu yn eu hadroddiad ac nad yw’r casgliadau’n cael eu rhannu ar wahân â’r awdurdod
  • atgoffa staff perthnasol am bwysigrwydd monitro cytundebau’n rheolaidd mewn perthynas â chyflwyno gwasanaethau gofal cymdeithasol gan drydydd parti, i sicrhau ymyrraeth briodol os oes yna bryderon am wasanaeth sy’n cael ei ddarparu neu newid yn anghenion cleient.