Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ceredigion i “wneud defnydd llawn” o bwerau newydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae’r pecyn yn cynnwys galluogi awdurdodau lleol i osod cap ar nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned drwy ddefnydd cynllunio newydd – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor hir.
Bydd gan awdurdodau y grym i amrywio’r dreth trafodion tir yn lleol mewn ardaloedd â niferoedd uchel o ail gartrefi hefyd.
‘Gwneud defnydd llawn’
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd gan gynghorau’r grym i godi’r dreth cyngor ar ail gartrefi i 300% y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Ceredigion yn codi 25% yn fwy o dreth cyngor ar ail gartrefi, sy’n llai na’r 100% sy’n cael ei ganiatáu yng Nghymru ers 2015, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Brian Davies, arweinydd y Cyngor, godi’r dreth.
Dywed Tamsin Davies ar ran Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, ei bod hi’n “newyddion da” fod y Llywodraeth wedi cyflwyno’r pecyn o fesurau.
“Nawr mae angen i Gyngor Ceredigion wneud defnydd llawn o’r pwerau newydd hyn,” meddai.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng tai – ac mae cynyddu’r dreth cyngor uwch i’r lefel uchaf posibl, gosod cap ar y canran o ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, a mynnu bod angen caniatâd cynllunio i droi tŷ yn dŷ haf yn fesurau mae angen i Geredigion weithredu cyn gynted ag y gallan nhw.
“Bydd gofyn am ganiatâd cynllunio i droi tŷ neu fflat preswyl yn ail gartref neu’n AirBnB yn gwneud gwahaniaeth pwysig iawn, o ystyried faint o denantiaid sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi fel bod modd i landlordiaid eu troi yn llety gwyliau.
“Mae’r rhain yn bwerau pwysig er mwyn sicrhau nad oes rhagor o gymunedau twristaidd yn colli eu poblogaeth barhaol.
“Hyd yma dydy Cyngor Ceredigion ddim wedi defnyddio’r pwerau yn llawn i fynd i’r afael ag effaith ail dai, ond mae’n hanfodol bod Cyngor Ceredigion yn arwain yn yr achos yma.”
‘Problemau systemig’
Dywed Tamsin Davies hefyd fod y “problemau systemig” yn y farchnad dai yn ehangach o lawer na mater ail gartrefi a llety gwyliau yn unig.
“Mae’r broblem yr un mor ddifrifol yn y sector rhentu hefyd, mae rhenti afresymol yn amddifadu pobol o gartrefi ar rent yn eu cymunedau,” meddai.
“Rhaid felly dal ar y cyfle i sicrhau fod mynd i’r afael â’r broblem yn iawn gyda Deddf Eiddo gynhwysfawr.
“Felly byddwn ni’n defnyddio rali ar Faes yr Eisteddfod i alw hefyd ar Gyngor Ceredigion i bwyso ar y Llywodraeth am Ddeddf Eiddo.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali fawr am 2yp ddydd Iau yn yr Eisteddfod yn Nhregaron i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf Eiddo.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu’r cyhoeddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd angen i ni ystyried y manylion wrth iddynt gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru; a maes o law bydd papurau yn cael eu cyflwyno er mwyn i’r Cabinet a’r Cyngor eu hystyried.”