Gallai staff Cyngor Sir Powys gael Mawrth 1 yn ddiwrnod Gŵyl Banc answyddogol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Mewn cyfarfod ddydd Gwener (Gorffennaf 22), bydd cynghorwyr yn trafod cynnig gan Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru, i geisio sicrhau bod hyn yn digwydd.
Pe bai cynghorwyr yn pleidleisio o blaid y cynnig, byddai’r Cyngor yn dilyn esiampl Cyngor Gwynedd.
Yn gynharach eleni, cytunodd Gwynedd i roi diwrnod o wyliau i’w staff ar Fawrth 1.
Fe wnaeth hynny arwain at drafodaeth genedlaethol am wyliau banc yng Nghymru.
Mae nawddsaint yr Alban (Tachwedd 30) a Gogledd Iwerddon (Mawrth 17) yn cael eu dathlu gyda gwyliau banc, ar ôl i bwerau i sicrhau hynny gael eu datganoli i senedd yr Alban a chynulliad Gogledd Iwerddon.
Ond yng Nghymru, mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw pennu gwyliau banc.
Datganoli pwerau a’r Jiwbilî
Mae cynnig Elwyn Vaughan yn gofyn i’r Cyngor alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatganoli’r pwerau i greu gwyliau banc yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Yn ei hasesiad o’r cynnig, mae Jane Thomas, pennaeth cyllid y Cyngor, yn dweud y byddai gŵyl banc yn taro “cynhyrchiant” y Cyngor.
“Fel enghraifft, fe wnaeth y gŵyl banc diweddar i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi ar ddydd Gwener, Mehefin 3 arwain at hawl i bob gweithiwr gael gwyliau gyda diwrnod arferol o dâl ar yr ŵyl banc arferol,” meddai.
“Serch hynny, bu’n rhaid i’r Cyngor sicrhau bod gwasanaethau hanfodol wedi’u cynnal, gyda gweithwyr oedd yn gweithio’r diwrnod hwnnw’n gymwys ar gyfer taliadau ymlaen llaw neu ddiwrnod i ffwrdd yn lle.”
Eglurodd fod hyn yn costio £700,000 yn fras – ac y byddai angen mwy o waith manwl i gyfrifo union ffigwr yn ogystal ag aros am ragor o geisiadau am dreuliau gan staff oherwydd y gwyliau banc.
“Yn ogystal, mae hawl gan staff gofal yn ein tenantiaethau sydd wedi’u cefnogi, gofal yn y cartref a chartrefi plant gael tâl ymlaen llaw ar gyfer y diwrnod hwnnw.
“Y gost ychwanegol sydd wedi’i hamcangyfrif ar gyfer hynny yw £72,000.”
Ond mae’n dweud y byddai anfon llythyr at y Deyrnas Unedig yn gofyn am drosglwyddo’r pwerau i greu gwyliau banc i Lywodraeth Cymru’n cael “ychydig iawn o effaith ar gyllidebau”.
Dewi Sant
Roedd Dewi Sant (tua 500-589O.C.) yn Esgob Menefia (Tyddewi) yn y chweched ganrif.
Mae lle i gredu ei fod e’n aelod o’r teulu oedd yn rheoli Ceredigion ac yn ŵyr i’r Brenin Caredig ap Cunedda a ddaeth i Gymru o’r Hen Ogledd, sydd bellach yn cwmpasu gogledd Lloegr a de’r Alban.
Roedd yn fab i Non, oedd hefyd yn sant, ac mae lle i gredu iddo sefydlu lleiandy yn Llanon, rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.
Cafodd ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Sir Benfro, ac roedd mynd ar bererindod i ymweld â’i fedd yn weithgaredd boblogaidd yn ystod yr Oesoedd Canol.