Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd, wedi codi pryderon am amseroedd ymateb ambiwlansys a’u darpariaeth ym Meirionnydd.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yn y Bermo a arweiniodd at farwolaeth dynes ddydd Sul, Gorffennaf 10.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, mae Liz Saville Roberts yn galw am ymchwiliad i ymateb y gwasanaethau brys i’r digwyddiad.

Mae hi hefyd yn gofyn am eglurder ynghylch pa gynlluniau sydd ar waith i ddelio â’r mewnlifiad o ymwelwyr ym mis Gorffennaf ac Awst.

“Ysgrifennaf i ofyn am wybodaeth ynglŷn â’r camau y bydd Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn eu cymryd i ymchwilio ansawdd ymateb y gwasanaethau brys i ddigwyddiad yn y Bermo Ddydd Sul,Gorffennaf 10, 2022. Bu farw dynes yn ystod y digwyddiad hwn,” meddai yn ei llythyr at Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd.

“Deallaf fod angen i swyddogion Heddlu’r Gogledd ymateb i ddau ddigwyddiad heriol gwahanol yn y Bermo, a bod rhaid i swyddogion heddlu ofalu am y claf wrth aros am oddeutu awr i’r ambiwlans gyrraedd o Fachynlleth.

“Er gwaetha’r ffaith bod gorsafoedd ambiwlans yn y Bermo a Dolgellau, nid oedd criw ar gael yn lleol i fynychu’r digwyddiad. Mae taith o 26 milltir rhwng Machynlleth a’r Bermo ar hyd ffyrdd araf, gwledig.

“Er fy mod yn gwerthfawrogi bod cyfyngiadau cyfreithiol ar faint gellir ei drafod yn gyhoeddus ynglŷn â’r farwolaeth drist yn y Bermo ar hyn o bryd yn dilyn arest a hefyd wrth ddisgwyl cwest, gofynnaf i Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ymrwymo i gyhoeddu’u hymchwiliadau cyn gynted â phosib.

“Mae diddordeb sylweddol gan y cyhoedd mewn amseroedd ymateb ambiwlans a sut defnyddir y criwiau ambiwlans a leolir yn Nwyfor Meirionnydd, a hefyd i ba raddau y defnyddir adnoddau heddlu i ddelio â digwyddiadau argyfwng iechyd yn yr etholaeth.

“Gofynnaf hefyd am fanylion parthed cynlluniau dros y chwech wythnos nesa i ymdopi gyda mewnlifiad ymwelwyr yng Ngorffennaf ac Awst er mwyn darparu gwasanaethau brys diogel a staff meddygol cymwys mewn ardaloedd gwledig yng Ngwynedd.”