Mae undebau sy’n cynrychioli gweithwyr iechyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi codiad cyflog addas i weithwyr.
Rhaid i bob gweithiwr iechyd dderbyn codiad cyflog sy’n uwch na chwyddiant ac yn adlewyrchu effaith yr argyfwng costau byw, meddai undeb UNSAIN.
Byddai hynny’n cyd-fynd ag argymhellion Llywodraeth Cymru yn eu cais i’r Corff Adolygu Cyflogau.
Mae UNSAIN yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gwneud yr un camgymeriad â chorff adolygu tâl y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Mae Corff Adolygu Cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn derbyn o leiaf £1,400 ychwanegol.
I’r gweithwyr ar y cyflogau isaf, mae hynny’n godiad cyflog o 9.3%.
Fodd bynnag, mae’n golygu mai dim ond 4% o godiad cyflog fydd gweithwyr band 6 a 7, sydd ar gyflogau uwch, yn ei dderbyn. Mae hynny’n effeithio nyrsys a staff bydwreigiaeth yn bennaf.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiad yn fuan.
‘Angen buddsoddiad sylweddol a pharhaus’
Yn ôl undeb UNSAIN, maen nhw wedi clywed gan weithwyr iechyd yng Nghymru sydd wedi gorfod ail-forgeisio eu cartrefi a rhai sydd wedi gorfod symud i dŷ llai er mwyn cadw to uwch eu pennau.
“Dim ond buddsoddiad sylweddol a pharhaus yn ngweithlu a gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal iechyd sydd am helpu i recriwtio a chadw staff,” meddai Hugh McDyer, pennaeth iechyd gydag UNSAIN Cymru.
“Pan fydd y gaeaf yn dod, mae ein haelodau yn dweud y bydd rhaid iddyn nhw ddewis rhwng cynhesu eu cartrefi a bwyta, ac maen nhw’n defnyddio banciau bwyd nawr i gynnal eu teuluoedd gan fod bwyd mor ddrud a’u cyflogau heb ddal fyny.”
‘Sarhad’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd meddygon a deintyddion yn Lloegr yn cael codiad cyflog o 4.5%, ac yn ôl undeb meddygon BMA Cymru, mae’r argymhellion gan Gorff Tâl Meddygon a Deintyddion Lloegr yn “siomedig”.
Mae ymateb Llywodraeth San Steffan i’r argymhellion yn “sarhad” hefyd, meddai.
“Dydy’r argymhellion hyn ddim yn cydnabod y blynyddoedd lawr o godiadau cyflog o dan chwyddiant y mae doctoriaid wedi’u dioddef, ac mae’n ymddangos nad yw’r corff wedi ystyried yr aberthon wnaeth doctoriaid yn ystod y pandemig, y pwysau parhaus ac eithriadol sydd ar ddoctoriaid, na’r ffaith bod doctoriaid yn gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar raddfa frawychus o sydyn,” meddai Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor BMA Cymru.
“Mae’r problemau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dangos yn hollol glir fod diogelwch cleifion yn ddibynnol ar argaeledd a llesiant y staff.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n sefyll dros staff ac yn defnyddio eu pwerau i adfer cyflogau doctoriaid Cymru – gan roi cydnabyddiaeth iddyn nhw am eu hymdrechion a chynnal eu hewyllys da fel eu bod nhw’n gallu gwneud popeth yn eu gallu, a thu hwnt, i gwrdd â’r galw anferth ar wasanaethau.
“Ar amser pan rydyn ni’n wynebu prinder staff cronig yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, byddai codiad cyflog addas yn anfon neges bod Cymru wir yn le da i hyfforddi, gweithio a byw, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod hyn gyda’r Gweinidog Iechyd dros yr ychydig ddyddiau nesaf.”