Wrth i Boris Johnson gynnal Cwestiynau’r Prif Weinidog am y tro olaf, mae pryderon wedi cael eu codi bod datganoli wedi bod yn “drychineb” yng Nghymru a’r Alban.

Daeth y cwestiwn gan Rob Roberts, Aelod Seneddol Delyn, wrth iddo ofyn am gyflwr y Gwasanaeth Iechyd.

“Ym mis Medi, bydd hi’n 25 mlynedd ers y refferendwm ar ddatganoli yn yr Alban a Chymru,” meddai wrth agor ei gwestiwn.

“Mae un ym mhob 20 o bobol yn Lloegr yn y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn aros ers dros flwyddyn.

“Yng Nghymru, mae’n un ym mhob pump.

“Ac mae arweinwyr ysgolion yng Nghymru, 75% ohonyn nhw, yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o gyfalaf i gynnal eu hadeiladau presennol, heb sôn am adeiladu rhagor.

“Yn ei gyfle olaf wrth y blwch dogfennau, a fyddai’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Undeb yn cytuno, yn nhermau Cymru o leiaf, fod datganoli wedi bod yn drychineb?”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson fod angen i lywodraethau datganoledig “wneud eu gwaith yn iawn”.

“Mr Llefarydd, dw i eisiau i ddatganoli weithio,” meddai.

“Ond dw i’n meddwl, a dw i wedi cael sgyrsiau da gyda Mark Drakeford, fod angen i’r awdurdodau datganoledig, yn enwedig Llafur yng Nghymru, wneud eu gwaith yn iawn.”

‘Dyn sy’n cadw at ei air’

“Mr Llefarydd, bydd y Prif Weinidog yn cael ei gofio fel dyn sy’n cadw at ei air,” meddai Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, cyn rhestru ei ffaeleddau.

“Pentyrrwch nhw’n uchel’, 200,000 yn farw, yr uchaf yn Ewrop.

F*** business’.

“Dyma’r gwirionedd, dydyn nhw ddim yn ei hoffi, nac ydyn?” meddai wrth gael ei heclo.

“Gadewch i ni wrando ar y gwirionedd – 400,000 yn llai o bobol mewn swyddi na chyn y pandemig, os ydych chi’n cynnwys yr hunangyflogedig, ond dydy’r Prif Weinidog ddim.

“A fydd e nawr yn cadw ffydd gyda’r 3.7m o bobol sydd wedi cael benthyciadau myfyrwyr ers i’r Llywodraeth Geidwadol hon ddod i rym, sydd bellach yn wynebu cynnydd mewn chwyddiant yn nhermau rhent, yn nhermau gwres, yn nhermau bwyta…

“Gwrandewch ar y giwed, gwrandewch arnyn nhw,” meddai wedyn, wrth gael ei heclo’r ail waith cyn i’r Llefarydd ymyrryd.

“3.7m o bobol sy’n wynebu cyfraddau llog o 7% o fis Medi, yn ogystal â chwyddiant ar wres, bwyta a rhent, pan fo morgeisi’n 2%.

“A fydd e’n helpu’r bobol hynny mewn angen, neu a fydd e’n helpu pobol y Ddinas, ei ffrindiau, sy’n gwneud yr holl arian yma allan o’r argyfwng costau byw?”

‘Fe wnaf fi ddweud beth mae myfyrwyr ei eisiau’

“Mr Llefarydd, fe wnaf fi ddweud beth mae myfyrwyr ei eisiau,” meddai Boris Johnson wrth ymateb i gwestiwn Geraint Davies.

“Maen nhw eisiau system lle nad ydyn nhw’n ad-dalu mwy na’r hyn maen nhw’n ei fenthyg. Dyna beth rydyn ni’n ei roi.

“Maen nhw eisiau sicrhau hefyd, Mr Llefarydd, fod ganddyn nhw farchnad swyddi a fydd yn eu derbyn nhw gyda chyflog uchel, swyddi sgiliau uchel.

“Felly y gwahaniaeth rhyngddyn nhw [Llafur] a ni [Ceidwadwyr] yw ein bod ni’n cael pobol i mewn i swyddi cyflog uchel, sgiliau uchel.

“Maen nhw’n fodlon eu gadael nhw ar y clwt, Mr Llefarydd.

“Dyna’r gwahaniaeth.”