Mae Cynghorau Powys a Cheredigion wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwneud cais ar y cyd am dros £42m gan Gronfa Ffyniant Gyffredin (Shared Prosperity Fund) Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd rhai o egwyddorion y “Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol” yn cael eu trafod gan gynghorwyr mewn cyfarfod o bwyllgor craffu Economi, Trigolion a Chymunedau Cyngor Sir Powys ddydd Llun (Gorffennaf 15).

Yna, ddydd Mawrth (Gorffennaf 26), mae disgwyl y bydd yr adroddiad yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Powys ar gyfer penderfyniad, gan fod angen cyflwyno’r cais erbyn Awst 1.

Mae’r Fframwaith yn cael ei weld fel rhywbeth i ddisodli cyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn dod i ben ar ôl Brexit.

Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd Powys yn derbyn £27.443m dros gyfnod o dair blynedd, tra bod Ceredigion yn derbyn £14.961m.

“Mae’n ofynnol i Bowys weithio gyda Cheredigion i ddatblygu Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth Cymru, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer y buddsoddiad,” meddai Rebecca Jeremy, arweinydd y strategaeth economaidd.

“Bydd hyn wedyn yn caniatáu i brosiectau gael eu hystyried ar gyfer cael cyllid.

“Disgwylir y bydd prosiectau a ddatblygir o dan y Fframwaith yn ymwybodol o les cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac yn mynd i’r afael ag ef, tra’n mynd i’r afael ag anghenion y bobol y mae Cyngor Sir Powys yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd.”

Themâu

Mae angen i brosiectau ddod o dan dair thema, sef:

  • cymunedau a llefydd
  • cefnogi busnesau lleol
  • pobol a sgiliau

Er mwyn cael ei gymeradwyo mae angen i’r Fframwaith gael ei rannu, gyda 40% yn mynd i Gymunedau a Lleoedd, 40% i Gefnogi Busnesau Lleol ac 20% i Bobl a Sgiliau.

Os nad yw’r cyllid wedi’i wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig atal rhandaliad y flwyddyn nesaf yn ôl.