Y diweddar Geraint Rowland (Llun trwy Heddlu De Cymru)
Mae cymar y dyn a gafodd ei ladd mewn damwain ffordd ar Wyl San Steffan, wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud y bydd ei farwolaeth yn gadael “bwlch enfawr” yn ei bywyd hi a’u mab bach.

Fe laddwyd Geraint Rowland, 26, o Dreforys, pan fu ei gar mewn gwrthdrawiad â fan Ford Transit wen ar ffordd yr A4067 yn ystod oriau mân bore ddoe. Dim ond mis sydd yna ers iddo ef a’i gymar, Cara Gregory, ddod yn rhieni.

“Roedd Geraint yn uchel ei barch, roedd pawb yn meddwl y byd ohono, ar roedd o’n dad balch a llawn hwyl,” meddai Cara Gregory yn ei datganiad heddiw.

Ychwanegodd bod Geraint Rowland yn dilyn Paganiaeth, a’i fod yn gredwr mawr yn y dyfyniad canlynol: “Mae gwartheg yn marw. Mae dynion yn marw. Mae’n rhaid i’r hunan hefyd farw. Ond gwn am un peth sydd byth yn marw – enw da pob dyn marw.”