Mae cynrychiolwyr Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd a San Steffan wedi galw ar y Goruchaf Lys i wrthod cynllun i godi 400 o dai marchnad agored ym mhentref Aberdyfi.
Dydy’r cynllun ddim yn “bodloni’r galw lleol” ac fe fyddai pobol leol ar eu colled pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru’r etholaeth, a Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol.
Mae’r cais cynllunio’n dyddio’n ôl i’r 1960au, ac mae Hillside Park Ltd, sy’n ceisio adeiladu’r tai, wedi colli apeliadau yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl yn barod.
Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys roi dyfarniad terfynol yn yr hydref.
“Gweithio yn erbyn buddiannau’r gymuned”
Yn ddiweddar, bu Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts yn cyfarfod â chynghorwyr lleol ar safle datblygiad arfaethedig Parc Hillside yn Aberdyfi i gryfhau’r gefnogaeth yn y gymuned leol.
“Roeddem yn falch o’r cyfle i gwrdd â chynghorwyr tref a sir yn Aberdyfi i ategu ein gwrthwynebiad i’r cynllun cwbl anaddas hwn na fyddai’n dod ag unrhyw fudd o gwbl i’r gymuned leol,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor mewn datganiad ar y cyd.
“Mae trigolion lleol wedi ei gwneud yn gwbl glir nad ydyn nhw eisiau gweld y llechwedd uwchben Aberdyfi yn diflannu o dan frics a morter dim ond i fodloni pocedi barus datblygwyr diegwyddor.
“Yr hyn sydd ei angen arnom yn Aberdyfi ac mewn ardaloedd eraill o Ddwyfor Meirionnydd yw mwy o dai cymdeithasol i gwrdd ag anghenion penodol ein cymunedau.
“Nid oes dim yn y datblygiad hwn sy’n bodloni’r galw lleol – nid yw’r tai hyn wedi’u cynllunio gyda phobol leol mewn golwg.
“Mae’r cynllun hwn yn gweithio yn erbyn buddiannau’r gymuned leol.
“Mae’r tai wedi eu clustnodi fel eiddo marchnad agored na fydd teuluoedd yn yr ardal yn gallu eu fforddio.”
“Gemau cyfreithiol”
“Bydd y datblygiad hwn ond yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau presennol, yn enwedig gwasanaethau iechyd, addysg a thrafnidiaeth, tra byddai’r seilwaith cyfleusterau yn Aberdyfi yn dymchwel pe bai’r tai hyn yn cael eu caniatáu,” meddai’r ddau wedyn.
“Ar ôl i apeliadau olynol gael eu gwrthod yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl a heb unrhyw alw gan y gymuned leol am y cynllun hwn, rhaid cwestiynu’r gwir gymhellion y tu ôl i ddyfalbarhad y datblygwr wrth fynd â’r achos hwn i’r Goruchaf Lys.
“A ydynt yn chwarae gemau cyfreithlon ar draul arian cyhoeddus drwy roi gwerth ariannol ar geisiadau cynllunio sydd wedi dod i ben?
“Mae un peth yn sicr, mae gwrthwynebiad ar y cyd i’r cynllun hwn – mae’r holl beth yn ymwneud â gwneud elw yn hytrach na chwrdd ag angen lleol, a thrigolion lleol a’r amgylchedd cyfagos fydd yn talu’r pris os na chaiff y cais hwn ei wrthod.”