Mae aflonyddu rhywiol yn ysgolion Cymru mor gyffredin, mae wedi’i ei “normaleiddio”, meddai adroddiad newydd.
Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd, mae’n effeithio ar blant mor ifanc â naw oed.
Fodd bynnag, mae adroddiad y Senedd yn dweud bod y sefyllfa’n debygol o fod “gryn dipyn yn waeth” nag y mae’r ystadegau hyn yn ei awgrymu.
Mae Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn aflonyddu rhywiol, a thargedu teuluoedd a staff ysgolion, ynghyd â dysgwyr.
Dylid grymuso disgyblion i dynnu sylw at ymddygiad o’r fath a sicrhau bod ysgolion yn cymryd camau priodol hefyd, meddai.
‘Brawychus o gyffredin’
Dywedodd Jayne Bryant, Aelod o’r Senedd Llafur a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg, bod aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn “frawychus o gyffredin”.
“Nid yw llawer o ysgolion yn gwybod sut i ymateb i aflonyddu rhywiol ac, weithiau, nid ydynt yn oed yn adnabod arwyddion aflonyddu rhywiol,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru rymuso athrawon, rhieni a disgyblion i fod yn gefnogol ac i sylweddoli pryd mae aflonyddu rhywiol yn digwydd. Mae elfen o ’dyna sut mae bechgyn yn ymddwyn’ neu ’dim ond herian mae e’ ac, a bod yn onest, mae angen i’r agwedd hon newid. Bydd y canlyniadau, fel arall, yn enbyd.
“Mae effaith aflonyddu rhywiol ar rai dysgwyr mor ddifrifol, mae’n effeithio nid yn unig ar eu dysgu, ond gall hefyd effeithio ar eu perthynas ag eraill, eu hiechyd meddwl, eu gobeithion at y dyfodol, a gall – yn yr achosion mwyaf difrifol – arwain at hunan-niwed a hunanladdiad.
“Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud cryn dipyn yn yr adroddiad hwn; nid yw ein pobl ifanc yn haeddu dim llai.”
Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Estyn yn ystyried sut mae ysgolion yn cofnodi ac yn ymateb i ddigwyddiadau, ac yn dweud y dylid rhoi sylw penodol i hyn yn ystod arolygiadau ysgol.
Er hynny, mae argymhellion y Pwyllgor yn cydnabod nad cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw ymdrin â phroblemau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a bod y rhesymau wedi’u gwreiddio mewn agweddau cymdeithasol, a bod pornograffi, y cyfryngau cymdeithasol a’r pandemig wedi dwysau’r broblem.
‘Angen yr adnoddau a’r hyfforddiant’
Wrth ymateb, dywedodd cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, bod gan ysgolion “rôl hanfodol” wrth leihau ac atal aflonyddu rhywiol ymysg plant a phobol ifanc, a mynd i’r afael ag achosion sydd yn codi.
“Ond maen nhw angen yr adnoddau a’r hyfforddiant iawn i wneud hynny,” meddai Laura Doel.
“Rydyn ni’n falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod y bydd angen i rôl ysgolion gael ei gyllido yn iawn, er mae yna dueddiad pryderus i ganolbwyntio ar adnabod problemau a llai o bwyslais ar awgrymiadu cymorth ymarferol i ddelio â’r achosion.
“Er bod ysgolion yn chwarae rôl allweddol yn fan hyn, mae hi’n broblem ehangach sy’n ymestyn ymhell tu hwnt i giatiau’r ysgol.
“Mae gan y llywodraeth, iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu a rhieni gyfraniad sylweddol i’w wneud. Ni ellir rhoi’r holl gyfrifoldeb ar ysgolion i ddatrys y broblem.
“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n creu diwylliant lle mae ysgolion yn adrodd ac ymateb hefyd, nid un lle maen nhw’n cael eu barnu os oes ganddyn nhw nifer uchel o achosion. Mae hyn yn cael ei nodi yn adroddiad [y Pwyllgor] – rydyn ni’n gobeithio y bydd Estyn yn ymgymryd â’r arfer hwnnw.”
‘Ymateb maes o law’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n ystyried argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.
“Mae unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol ac mae diogelu plant yn ein hysgolion yn flaenoriaeth,” meddai.
“O fis Medi ymlaen, bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) sy’n briodol i ddatblygiad yn cael ei haddysgu i bob plentyn ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru.
“Bydd ACRh yn helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau iach, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch.”