Mae dau o brif frandiau bwyd Cymru – Bwydydd Madryn a Hufenfa De Arfon – wedi ymuno i greu amrywiaeth newydd o greision caws a nionyn Cymreig.

Wedi’u lansio o dan y brand poblogaidd Jones Crisps, mae’r creision wedi’u gwneud gyda chaws cheddar Dragon yr hufenfa, sydd wedi ennill llu o fedalau aur gan gynnwys prif wobrau’r Pencampwriaethau Caws Rhyngwladol.

Mae’r tatws a ddefnyddir i wneud y creision hefyd yn Gymreig ac yn dod o Ynys Môn, Sir Benfro neu Sir Fynwy, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.

“Yn ogystal â chreu ychwanegiad newydd gwych i’n dewis o Jones Crisps, rydym yn frwd dros hyrwyddo bwyd Cymreig a chynhyrchwyr Cymreig,” meddai rheolwr gyfarwyddwr Madryn, Geraint Hughes.

“Felly o’r safbwynt hwnnw, roedd gweithio efo Hufenfa De Arfon yn ddewis hawdd ac mae eu caws Cheddar Dragon gwych yn rhoi’r blas perffaith.

“Mae gen i ymlyniad emosiynol cryf i’r hufenfa, gyda pherthnasau o ddwy ochr fy nheulu wedi bod â chysylltiadau agos dros y degawdau, ac mae’r fferm gartref lle ces i fy magu yn aelod-gyflenwr o’r cwmni ffermwyr cydweithredol.

“Dim ond dafliad carreg yw’r fferm o’r hufenfa yn Rhydygwystl ger Pwllheli ac mi wnes i ddod yma ar brofiad gwaith pan oeddwn i’n 15 oed.”

“Blas clasurol”

“Mae caws a nionyn yn flas clasurol. Does dim ots pa ddata rydych chi’n edrych arno, creision caws a nionyn a halen yw’r ddau brif flas,” meddai wedyn.

“Fe wnaethon ni brofi llwyth o sypiau gwahanol cyn i ni gael y blas yn iawn gyda’r cydbwysedd perffaith rhwng y caws a’r nionyn.

“Roedden ni eisiau i’r caws fod yn amlwg a’r blas i fod yn gryf.

“Mae safon y cynhwysion yn holl bwysig oherwydd rydyn ni eisiau bod y gorau a chynnig gwerth am arian.

“Rwy’n falch iawn o allu gweithio efo Hufenfa De Arfon – mae’r cwmni’n gwmni cydweithredol lle mae ffermwyr yn berchen ar y sefydliad ac mae’r hufenfa yn atebol iddyn nhw.

“Dyna un o’r rhesymau pam ei fod yma o hyd, ac wedi gwreiddio mor ddwfn yn y gymuned, oherwydd mae’n ddigon posib y byddai cwmni rhyngwladol wedi symud y ffatri i leoliad mwy canolog erbyn hyn.

“Mae creu cadwyn gyflenwi Gymreig yn rhan bwysig iawn o’n hethos felly mae’r ffaith fod hufenfa wedi’i gwreiddio yma mor bwysig.”

“Balch o fod yn Gymry”

Dywedodd Kirstie Jones, rheolwr marchnata Hufenfa De Arfon: “Mae popeth yn dechrau gydag ansawdd y llaeth ac mae gennym hanes llwyddiannus iawn o gynhyrchu caws rhagorol sydd wedi ennill gwobrau.

“Caws Dragon yw ein brand blaenllaw ac rydym yn ei ddefnyddio i gyfleu neges yr hufenfa.

“Rydyn ni’n falch o fod yn Gymry ac rydyn ni’n defnyddio ryseitiau traddodiadol sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

“Mae’n wych ein bod yn medru ymuno efo brand Cymreig eiconig arall sydd â’r un ethos â ni, gan gefnogi cynhyrchwyr lleol a chymunedau lleol.

“Mae’r creision caws cheddar a nionyn newydd wedi mynd lawr yn dda iawn. Mae yna obeithion mawr oherwydd mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt.”