“Nid oes gobaith i gleifion” sydd ar restrau aros am lawdriniaethau yng Nghymru, yn ôl Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw (Gorffennaf 12), gofynnodd Andrew RT Davies wrth Mark Drakeford a oes gobaith y bydd y rhestr aros yn lleihau yn fuan.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn credu bod yna resymau pam y gallai pobol ddechrau gweld gwelliannau ond bod heriau yn wynebu’r Gwasanaethau Iechyd Gwlad.

Mae tua 2,500 o weithwyr y gwasanaeth iechyd adref o’u gwaith heddiw gan eu bod nhw naill wedi profi’n bositif am Covid-19 neu eu bod nhw’n hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad agos ag achos positif, meddai’r Prif Weinidog.

Ar hyn o bryd, mae 68,032 o bobol yng Nghymru yn aros am driniaethau ers dros ddwy flynedd, cyfanswm sydd wedi cynyddu bron i 900% mewn blwyddyn.

‘Gobaith gweld gwelliannau’

Wrth nodi bod gobaith o weld gwelliannau, dywedodd Mark Drakeford bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod amseroedd ambiwlans ac amseroedd aros mewn adrannau brys wedi gwella.

“Dyma ddechrau siwrne hir, oherwydd mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dal i ymdopi gyda gwaddol y pandemig bob dydd a chydag effaith y coronafeirws yma yng Nghymru heddiw,| meddai’r Prif Weinidog.

“Mae gennym ni 1,900 o staff sydd ddim yn eu gwaith heddiw, a fyddai’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fel arall, gan eu bod nhw’n sâl eu hunain gyda coronafeirws.

“Ddydd Gwener, roedd dros 1,000 o bobol yng ngwelyau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn sâl gyda coronafeirws eto.

“Ar ben y 1,900 o bobol sy’n sâl gyda coronafeirws, dydy dros 600 o bobol eraill ddim yn eu gwaith oherwydd eu bod nhw’n hunanynysu ar ôl bod mewn cysylltiad agos gyda rhywun.

“Mae’r system yn gweithio mor galed â phosib er mwyn cynyddu darpariaeth triniaethau, cael gwared ar yr ôl-groniadau, ond mae’r rhwystrau yn sylweddol iawn a dydyn nhw heb ddiflannu.”

‘Eisiau i amseroedd aros ostwng yn gynt’

Er bod Andrew RT Davies yn derbyn bod heriau’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd, cymharodd y sefyllfa â’r gwasanaeth yn Lloegr, lle mae ychydig dros 12,000 o bobol ar restrau aros ers dros ddwy flynedd allan o boblogaeth o 57 miliwn.

Mae rhestrau aros yn Lloegr yn lleihau, meddai Andrew RT Davies, gan ddweud: “Rydyn ni angen cynnig gobaith i bobol”.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford bod cynllun iechyd wedi cael ei gyhoeddi gan y gweinidog Iechyd sy’n nodi sut y byddan nhw’n cwtogi amseroedd aros.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig wedi cael amser ofnadwy, ac yn parhau i gael amser ofnadwy ymhob man,” meddai.

“Mae’r niferoedd sy’n aros am gyfnodau hir yn gostwng yng Nghymru, fel ag y maen nhw yn Lloegr. Rydyn ni eisiau iddyn nhw ostwng yn gynt, wrth gwrs ein bod ni.

“Ond gadewch i mi ddweud hyn, Lywydd: be wneith ddim cwtogi rhestrau aros yn Lloegr nag yng Nghymru yw y syniadau ffantasiol y rydyn ni’n eu gweld gan wleidyddion eich plaid yn Llundain.

“Sut fyddan nhw’n cwtogi amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig os yw eich Canghellor yn cael ei ffordd ac yn cwtogi cyllid yr adran iechyd o 20%, oherwydd yw ei fwriad pe bai’n cael ei ethol.

“Gostyngiad o 20% yn nifer y meddygon, gostyngiad o 20% yn nifer y nyrsys, gostyngiad o 20% yn nifer y gweithwyr cymdeithasol, gostyngiad o 20% yn nifer yr athrawon – i le fydd hynny’n arwain gwasanaethau Cymru ac ardaloedd eraill y Deyrnas Unedig.”

‘Sarhau pleidiol’

Wrth ymateb, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig nad yw’n synnu bod Mark Drakeford wedi troi at “sarhau pleidiol” pan mae’r record y mae’n rhaid iddo ei hamddiffyn “mor ofnadwy”.

“Ond dw i’n siomedig na wnaeth gynnig gobaith i gleifion sy’n aros ers blynyddoedd am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Andrew RT Davies.

“Wnâi fyth feio’r meddygon a’r nyrsys sy’n gweithio mor ddiflino ar y rheng flaen i gwtogi’r ôl-groniad, ond ni wnâi ganiatáu i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd greu mwy o wleidyddion na gosod treth dwristiaeth cyn eu bod nhw’n helpu cleifion sy’n dioddef.”