Mae effaith y profiadau cynnar o fyw mewn tlodi yn rhywbeth y mae un ymgyrchydd yn dal i’w deimlo bob dydd.

Wrth alw am weithredu i fynd i’r afael â thlodi plant, dyweda Naomi Lea, 23, sy’n Llysgennad i’r Gynghrair Dileu Tlodi Plant, bod arian dal yn rhywbeth sy’n peri pryder iddi.

Daw’r galwadau wedi i amcangyfrifon newydd gan y gynghrair ddangos bod mwy nag un ymhob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig.

Casnewydd oedd yr awdurdod lleol gyda’r gyfradd uchaf o dlodi plant, yn ôl yr ystadegau.

Yn ôl yr amcangyfrifon, roedd 36.3% o blant Casnewydd yn byw mewn tlodi yn y flwyddyn 2020/21.

Caerdydd (36%) ac Ynys Môn (35.6%) oedd â’r cyfraddau gwaethaf wedyn.

Sir Fynwy a Bro Morgannwg oedd yr unig ddwy sir lle’r oedd llai na 30% o blant yn byw dan y llinell dlodi, gyda 27% yn byw mewn tlodi yn Sir Fynwy a 28.9% ym Mro Morgannwg.

Galwadau

Wrth i’r argyfwng costau byw wasgu ymhellach ar incwm teuluoedd, mae sefydliadau ac elusennau yn rhybuddio y bydd llawer mwy o blant yn wynebu mynd heb yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ar gyfer plentyndod hapus ac iach.

Mae aelodau’r cynghrair Dileu Tlodi Plant – yn cynnwys Grŵp Gweithredu Tlodi Plant, Achub y Plant a Plant yng Nghymru – yn galw ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod budd-daliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn mynd law yn law gyda chwyddiant.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi strategaeth tlodi plant newydd a chynllun gweithredu mewn grym fel mater o frys hefyd.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n dweud y dylid gwella mynediad at ofal plant am ddim neu ofal plant fforddiadwy, ac y dylai prydau ysgol am ddim cael eu hymestyn i gynnwys pob teulu sy’n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol.

‘Trychinebus’

Cafodd Naomi Lea o Sir Ddinbych, sy’n Llysgennad i’r Gynghrair Dileu Tlodi Plant, ei magu mewn tlodi.

“Mae gweld y cyfraddau trychinebus o dlodi plant ar draws Cymru yn andwyol,” meddai Naomi Lea.

“Y tu ôl i bob un o’r rhifau yna y mae plant go iawn a’u teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd dal deupen llinyn ynghyd ar hyn o bryd. Yn aml nid yw dal swydd yn ddigon i deuluoedd allu fforddio prynu’r pethau sylfaenol.

“Wrth dyfu i fyny mewn tlodi fe wnes i brofi nifer o bethau na ddylai’r un plentyn orfod ei wneud. Am nifer o flynyddoedd roedd fy mam yn gweithio yn y sector gofal, ond yn anffodus doedd hyn dal ddim yn dod â digon o arian ar yr aelwyd i ni allu byw arno.

“Fe ddes i yn ymwybodol iawn o oed cynnar o’n sefyllfa ariannol a mynd i bryderu am bethau fel a fydden ni yn gallu talu’r rhent a chadw to uwch ein pennau, i’r pryderon dyddiol am ba fwyd fydden ni yn gallu ei fforddio.

“Dw i’n 23 oed erbyn hyn ac wedi symud allan o’r cartref teuluol a dydw i ddim mwyach yn cyfrif fy hun fel rhywun sy’n byw mewn tlodi. Ond mae effaith y profiadau cynnar o fyw mewn tlodi pan oeddwn i’n blentyn yn rhywbeth rydw i’n fyw gydag o bob dydd.

“Mae arian dal yn rhywbeth sydd yn fy mrawychu ac yn gallu peri pryder i mi ac rydw i dal yn dioddef o’r stigma o dyfu i fyny mewn tlodi.”

‘Straeon torcalonnus’

Gan gyfeirio at y gwaith mae elusen Achub y Plant yn ei wneud gyda theuluoedd a phartneriaid, ychwanega Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru: “Rydw i wedi clywed straeon torcalonnus gan rieni sy’n ei chael hi’n anodd i brynu’r hanfodion hyd yn oed ac yn mynd heb bryd o fwyd eu hunain fel y gall eu plant fwyta.

“Mae hon yn sefyllfa ddifrifol ac mae angen strategaeth tlodi plant wedi ei ddiweddaru â chynllun gweithredu clir gyda thargedau a cherrig milltir allweddol er mwyn gallu mynd i’r afael â’r sefyllfa ar lefel lleol a chenedlaethol gan ganiatáu i’r sector gyhoeddus a’r trydydd sector weithio gyda’i gilydd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau fod y cymorth maen nhw yn ei gynnig, sy’n cynnwys prydau ysgol am ddim a’r cynnig gofal plant, ar gael i bob plentyn yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.