Mae’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn digwydd yn “rhy araf” i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Daw eu sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau i agor 23 o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd dros y wlad.

Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol dros Gymru wrthi’n cwblhau eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy’n nodi sut maen nhw’n bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y ddeng mlynedd nesaf.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu 23 o ysgolion cynradd Cymraeg newydd, a chynyddu capasiti 25 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli’n barod.

Does yna ddim rhestr o’r ysgolion eto, ond mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod gan gynghorau Sir Fflint, Powys, Sir Benfro, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-Bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy gynlluniau i agor ysgol neu ysgolion Cymraeg newydd dros y degawd nesaf.

‘Rhy araf’

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dydy’r twf ddim yn digwydd ddigon sydyn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i 26% o ddysgwyr Blwyddyn 1 fod yn derbyn addysg yn Gymraeg erbyn 2026, a 30% erbyn 2031 a sefydlu 23 o ysgolion Cymraeg newydd,” meddai Cymdeithas yr Iaith wrth golwg360.

“Mae’n amlwg bod y twf yma yn rhy araf os ydy’r Llywodraeth eisiau cyrraedd eu targed eu hunain o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Ond yn fwy na hynny mae’r Llywodraeth wedi methu targedau tebyg yn y gorffennol.

“Dydy cyfundrefn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ddim yn gweithio i greu’r twf sydd ei angen felly mae angen eu disodli gyda thargedau statudol newydd ar gyfer symud tuag at addysg Gymraeg i bawb, a symud ysgolion ar hyn y continwwm tuag at fod yn ysgolion Cymraeg fel rhan o hynny, yn hytrach na dibynnu ar ysgolion newydd i greu twf.

“Mae’r Llywodraeth yn paratoi ar gyfer creu deddf addysg newydd, a dyna fydd rhai o’n cynigion ar gyfer deddf o’r fath. Mae cyfle i’r ddeddf sicrhau addysg Gymraeg i bawb, nid dim ond y rhai ffodus.

“Byddwn ni’n trafod ein cynigion ar gyfer deddf addysg ar ein stondin ar faes yr Eisteddfod am 2yp ar ddydd Mawrth, Awst 2.”

Cynlluniau i greu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd

“Gyda’r cynlluniau hyn ar waith, mae gen i bob hyder y byddwn yn cyrraedd ein targedau,” meddai Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru