Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i greu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd.
Heddiw (Gorffennaf 12), bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Cymru, Jeremy Miles, yn nodi sut y mae awdurdodau lleol yn anelu at gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.
Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol dros Gymru wrthi’n cwblhau eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy’n nodi sut maen nhw’n bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg dros y ddeng mlynedd nesaf.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu 23 o ysgolion cynradd Cymraeg newydd, a chynyddu capasiti 25 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli’n barod.
Bydd angen i bob awdurdod lleol gytuno ar ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg terfynol a’i gyhoeddi erbyn 1 Medi 2022.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i 26% o ddysgwyr Blwyddyn 1 fod yn derbyn addysg yn Gymraeg erbyn 2026, gan godi i 30% erbyn 2031.
Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £76m mewn prosiectau seilwaith i greu 4,000 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol mewn gofal plant, ysgolion neu gynlluniau ‘trochi hwyr’.
‘Cynlluniau uchelgeisiol’
Dywedodd Jeremy Miles ei fod yn falch o weld “mor uchelgeisiol yw llawer o’r cynlluniau sydd wedi dod i law, yn enwedig y ffordd mae rhai awdurdodau lleol wedi gosod targedau sy’n rhagori ar ein disgwyliadau”.
“Gyda’r cynlluniau hyn ar waith, mae gen i bob hyder y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer 2026 a 2031, gyda’r nod yn y pen draw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai’r Gweinidog.
“Mae fy neges yn glir – rwyf am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwyf am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”