Mae gwirfoddolwyr lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi dysgwyr yn eu cymuned, drwy gynnal sesiynau sgwrsio misol yn nhafarn y pentref.

Dechreuodd y sesiynau, sy’n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf y mis yn Ty’n Llan yn Llandwrog ger Caernarfon, ar ôl i’r dafarn gael ei phrynu gan dros 1,000 o bobol y llynedd.

Mae Ty’n Llan yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys boreau coffi, clybiau garddio a cherdded, prosiect ieuenctid o’r enw ‘Ty’n Llan Ni’, a’r clwb i ddysgwyr, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr lleol ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Cyfle i ddysgu ar stepen drws

Dywedodd Ann Jenkins, sy’n dysgu Cymraeg ac yn mynychu’r clwb yn rheolaidd: ‘‘Dw i’n dysgu Cymraeg ers dwy flynedd, a dw i mor falch o gael cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ar stepen fy nrws.

“Dw i wrth fy modd yn sgwrsio efo’r pentrefwyr a gwneud ffrindiau newydd.

“Diolch i’r sesiynau yma, dw i rŵan yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad Cymraeg efo fy nheulu.

“Mae’r clwb yn anffurfiol ac yn hwyliog, a hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r gwirfoddolwyr sy’n dod i’r sesiynau ac yn ein cefnogi bob mis.’’

Dywedodd Marnel Pritchard, un o’r gwirfoddolwyr lleol sy’n mynychu’r clwb er mwyn cefnogi’r dysgwyr: ‘‘Dw i wrth fy modd yn cymdeithasu gyda’r dysgwyr gan eu bod mor angerddol am yr iaith Gymraeg.

“Mae’n wych gweld eu hyder yn cynyddu wrth i’r misoedd fynd heibio.

“Maen nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, ac mae’n bleser treulio amser yn eu cwmni.

“Rydyn ni bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr, felly os hoffech ymuno, cysylltwch â ni!’’