Mae hi’n Ddiwrnod Coffa Srebrenica heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 11), a’r thema eleni yw ‘Gwrthwynebu Gwadu: Herio Casineb’.

Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn nhref Srebrenica ym Mosnia i nodi 27 mlynedd ers yr unig hil-laddiad cydnabyddedig yn Ewrop ers yr Holocost.

Cafodd dros 8,000 o ddynion a bechgyn Bosniac Mwslemaidd eu llofruddio gan y Fyddin Bosniaidd Serbaidd ym mis Gorffennaf 1995, yn ystod Rhyfel Bosnia, o gwmpas tref Srebrenica.

Bob blwyddyn ar Orffennaf 11, mae pobol sydd newydd gael eu hadnabod fel rhai gafodd eu lladd yn yr hil-laddiad yn cael eu claddu mewn mynwent yn y dref, a heddiw bydd angladd yn cael ei chynnal ar gyfer 50 o ddioddefwyr.

Mae hi’n ddiwrnod o gofio yng Nghymru hefyd wrth i Fwrdd Cofio Srebrenica Cymru frwydro am addysg a chymunedau mwy diogel yng Nghymru.

Yn ddiweddar, mae’r elusen wedi bod yn cydweithio gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a byddan nhw’n cyhoeddi adnoddau dysgu am Srebrenica fel rhan o’r Fagloriaeth Gymreig yn fuan.

Mae’r elusen newydd lansio menter i greu canolfan addysg goffa Srebrenica yng Nghymru, sef y gyntaf yn y byd tu allan i Fosnia.

‘Dydyn ni ddim yn dysgu, dydyn ni ddim yn stopio casineb’

27 mlynedd ers yr hil-laddiad, dydy cyd-gadeirydd Cofio Srebrenica Cymru, Abi Carter, ddim yn teimlo bod digon o ddealltwriaeth eang ymysg y cyhoedd o’r digwyddiad.

“Pan gyrhaeddon ni’r 25 mlynedd ar ôl yr hil-laddiad, roeddwn i’n bendant yn teimlo fod shifft cenhedlaeth ble mae pobol o genhedlaeth sy’n hŷn na fi, dw i’n 39 oed, yn cofio gweld o ar y newyddion a siarad amdano,” meddai Abi Carter wrth golwg360.

“Bydden nhw’n gwybod yr effaith a gafodd ond tydy fy nghenhedlaeth i ac iau yn bendant ddim yn ei gofio’n dda,” meddai’r archeolegydd fforensig o Gaerdydd sydd wedi gweithio ar dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r hil-laddiad.

“Felly roeddwn i’n teimlo ar y pwynt yna fod y genhedlaeth oedd yn cofio am stopio siarad amdano.

“Roedd hynny’n golygu bod rhaid i ni wneud mwy fel elusen ac fel cenhedlaeth i gofio ac atgoffa pobol am yr hyn ddigwyddodd.

“Ond rydyn ni nawr wedi cyrraedd y 27ain flwyddyn ac yn amlwg dydyn ni dal ddim yn dysgu achos sbïwch be sy’n digwydd yn Wcráin.

“Dydy o ddim yn bell o be ddigwyddodd er nad yw e’n ymwneud â ffydd, ond mae’n bendant yn achos o wahaniaethu yn erbyn grŵp o bobol.

“Dydyn ni ddim yn dysgu, dydyn ni ddim yn stopio casineb ac felly mae gwaith yr elusen mor bwysig i gadw’r addysg hon i fynd.”

Gwadu’r hil-laddiad yn parhau

Mae gwadu’r hil-laddiad yn parhau i fod yn broblem enfawr yn ôl Abi, a dyna’r rheswm dros ddewis ‘gwrthwynebu gwadu’ fel y thema eleni.

“Mae o mor rhemp, er enghraifft, bydd gweddillion 50 o bobol sydd wedi eu canfod o’r hil-laddiad yn cael eu claddu ym mynwent Srebrenica heddiw, fel pob blwyddyn.

“Bydd yr holl eirch yn cael eu cario ond pob blwyddyn mae cenedlaetholwyr Serbaidd yn ymgasglu ar hyd y ffordd ac yn canu caneuon cenedlaetholgar, siantio’n hapus a sgrechian a gweiddi ar y galarwyr.

“Mae hyn 27 mlynedd yn ddiweddarach, a dyma [y cenedlaetholwyr Serbaidd] yn gogoneddu’r hyn ddigwyddodd, ond ar yr un pryd maen nhw’n gwadu’r hyn ddigwyddodd.”

Ym mis Awst 2001 daeth y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer yr hen Iwgoslafia (ICTY) i’r casgliad bod trosedd o hil-laddiad wedi’i gyflawni yn Srebrenica.

“Dydych chi methu ei wadu, ond eto mae’n digwydd yn gyson.”