Fel y rhan fwyaf o wleidyddion, roedd cyn-Brif Weinidog Japan, Shinzo Abe, yn “hollti barn”, meddai un sy’n byw yn y wlad.

Cafodd Shinzo Abe ei saethu ddwywaith wrth annerch cynulleidfa wrth ymgyrchu yn ninas Nara fore dydd Gwener, Gorffennaf 8.

Mae Tetsuya Yamagami, 41, wedi cyfaddef llofruddio Shinzo Abe, a fu’n brif weinidog ar y wlad rhwng 2006 a 2007 ac yna rhwng 2012 a 2020, meddai’r heddlu.

Yn ôl Nathaniel Reed, sy’n wreiddiol o Lundain ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae rhai yn canolbwyntio ar nodau rhyfel y cyn-Brif Weinidog ac eraill yn edrych ar yr hyn wnaeth ar gyfer cydberthnasau rhyngwladol.

Ar ôl gwneud gradd Mesitr mewn llenyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, aeth Nathaniel Reed i fyw yn ninas Niigata yn Japan lle bu’n dysgu Saesneg fel iaith dramor, cyn sefydlu ei fusnes ei hun, sef gwefan www.altto.net sy’n helpu athrawon iaith yn Japan.

“Fel y rhan fwyaf o wleidyddion, roedd Shinzo Abe yn hollti barn i ryw raddau,” meddai Nathaniel Reed, sy’n briod â merch o Japan, wrth golwg360.

“Troseddwr rhyfel oedd ei dad-cu, ac fe dreuliodd e amser yn y carchar cyn dod yn brif weinidog yn ddiweddarach. Mae rhai pobol yn Japan yn teimlo ei fod e’n dilyn yn ôl ei droed, ond fe wnaeth e hefyd fethu â newid Erthygl 9 yn y Cyfansoddiad [sy’n gwahardd rhyfel fel ffordd o ddatrys anghydfodau].

“Mae’r farn amdano fe wedi cael ei chymylu rywfaint gan nad oedd e wedi deddfu ryw lawer i ddod â Japan i mewn i’r unfed ganrif ar hugain a chwtogi ar y camau yn erbyn gor-boblogi, yn ogystal â 30 mlynedd o aros yn yr unfan yn economaidd lle cafodd y term ‘Abenomics’ ei ddefnyddio’n helaeth.

“Fel Prydeiniwr yn byw yma, ac fel un sydd efallai ychydig yn fwy gwrthrychol, yn syml iawn mae arweinwyr jyst yn cylchdroi. Aelodau’r teulu a ffrindiau agos ydyn nhw, sydd jyst yn cylchdroi.

“O ganlyniad, tinc yn unig o ddemocratiaeth sydd yn y wlad hon o ran y ffaith fod y gymdeithas yn ddi-rym ac yn gorfod gwneud yr hyn mae pobol yn dweud wrthyn nhw am ei wneud – lle, yn y Deyrnas Unedig er enghraifft, byddai 100,000 o lofnodion yn sicrhau trafodaeth ar ddeddf newydd yn San Steffan.

“Mae nifer o’m ffrindiau yma’n dweud ein bod ni jyst yn ddefaid, a doedd pethau’n ddim gwahanol o dan Abe.

“Fe deithiodd e dipyn a gwneud cysylltiadau ac yn nhermau ochr ysgafn bod mewn grym, fe wnaeth e’n wych. Ond o ran safon byw, cyfleoedd gwaith ac yn y blaen, fe wnaeth e ddim byd i Japan.”

‘Bradlofruddiad’

Wrth gyfeirio at lofruddiaeth Shinzo Abe, dywed Nathaniel Reed ei bod hi’n ddiddorol nad yw’r cyfryngau yn Japan yn defnyddio’r term ‘bradlofruddiaeth’ (assassination), dim ond ‘llofruddiaeth’.

“Yn y cyfryngau rhyngwladol, mae’r gair bradlofruddiad yn cael ei ddefnyddio ym mhob man,” meddai.

“Yn ystod tymor etholiadau yma, mae pobol yn yr etholaethau’n gyrru o amgylch gydag uchelseinydd ar y to, gyda rhai yn defnyddio negeseuon wedi’u recordio ac eraill yn siarad ar y pryd.

“Ddoe, fe wnaeth un fy mhasio o blaid Abe, yr LDP [Plaid Democratiaeth Ryddfrydol]. Dywedodd y dyn (Japan yw hyn, felly wrth gwrs mai dyn oedd e!) rywbeth fel “Ffarwél Abe… Pleidleisiwch drosom ni!”

“Roedd y dyn hwn yn gyrru o amgylch am oriau yn wylo – oedd llofruddiaeth Abe, felly, yn offeryn?”

Shinzo Abe

“Nid oes lle i drais mewn gwleidyddiaeth”

Mark Drakeford yn ymateb i farwolaeth Shinzo Abe, cyn-Brif Weinidog Japan