Mae cynlluniau i greu estyniad i bwll glo yng Nghwm Nedd yn “wallgof”, meddai un ymgyrchydd sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau.
Bu dros 60 o ymgyrchwyr Rhyfel Difodiant Cymru yn ymgyrchu yn erbyn creu estyniad i fwynglawdd Aberpergwm ger Glyn-nedd ddoe a heddiw (Gorffennaf 10 ac 11).
Mae’r grŵp yn gwrthwynebu distawrwydd Llywodraeth Cymru ar ôl i gais i gloddio 40 miliwn tunnell arall o lo o’r safle gael ei gymeradwyo.
Bellach, mae’r ymgyrchwyr wedi gadael Aberpergwm o’i gwirfodd, ac mae adroddiadau bod tua saith o bobol wedi cael eu harestio.
“Y broblem yw bod gan y llywodraeth Gymreig Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac maen nhw’n dweud eu bod nhw eisiau cynllunio i ofalu am genhedloedd y dyfodol, ond ar yr un pryd maen nhw’n gadael i’r mwynglawdd yma adeiladu extension,” meddai Gwenllian, sy’n aelod o Rhyfel Difodiant Cymru, wrth golwg360.
“Yn amlwg, mae yna ychydig o inconsistency yna.
“Roedden ni eisiau amlygu’r broblem yma, a cheisio dangos i’r cyhoedd be sy’n digwydd.
“Mae braidd yn wallgof i fi bod unrhyw fwynglawdd newydd yn cael ei agor, yn enwedig gyda glo achos mae’n danwydd ffosil mor ddrwg. Mae’n waeth na nwy, mae’n waeth nag olew.
“Mae’n anodd iawn i mi ddeall sut yn y byd y cafodd y prosiect yma ei adael i ddigwydd.
“Dw i’n credu bod e’n bwysig iawn i ni geisio cau e lawr cyn iddo fe ddigwydd go iawn.”
‘Pobol yn deall’
Hyd yn hyn, mae’r ymateb i’r brotest wedi bod yn “iawn”, meddai Gwenllian, sydd wedi bod yn aelod o’r mudiad ers 2019.
“Fel arfer, mae pobol yn deall bod argyfwng hinsawdd ac ecoleg,” meddai.
“Oherwydd ein bod ni’n uniongyrchol yn targedu’r mwynglawdd, mae’n hawddach i bobol ddeall beth yn union rydyn ni’n ei dargedu.
“Pan rydyn ni’n gwneud protestiadau mwy indirect, pan rydyn ni’n blocio’r ffyrdd a phethau fel yna, mae pobol yn mynd yn fwy crac. Ond gyda phethau fel hyn, dw i’n credu bod pobol yn deall yn well.”
‘Na i ragor o lo’
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad oes ganddyn nhw’r grym i wneud penderfyniad ar y cais, sydd bellach yn wynebu adolygiad barnwrol.
Wedi i gais gan y Coal Action Network i gynnal adolygiad barnwrol i’r mater gael ei gymeradwyo, dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud na i ragor o lo, “er mwyn ein planed a chenedlaethau’r dyfodol”.
“Rhaid stopio’r estyniad i’r mwynglawdd hwn,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.
“Er y bydd rhai’n sôn am y swyddi fydd yn cael eu creu, dylai cymunedau ger Aberpergwm gael rôl arweiniol wrth ddatblygu’r strategaeth hydrogen werdd yn ne Cymru, gan sicrhau swyddi i’r gymuned a fydd yn para ymhell i’r dyfodol.”
Dydy Llywodraeth Cymru methu gwneud sylwadau pellach ar y sefyllfa gan nad yw’r broses gyfreithiol wedi dod i ben.