Mae deg o weithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru wedi’u datgelu fel enillwyr pumed Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Eleni am y tro cyntaf, cyflwynwyd Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r wobr, a enillwyd gan Ysgol Uwchradd Llanwern yng Nghasnewydd, yn cael ei rhoi i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.

Roedd y beirniaid wedi’u plesio’n arbennig gan ddull ysgol gyfan yr ysgol o hyrwyddo amrywiaeth.

Daw hyn cyn i’r cwricwlwm newydd, a fydd yn ei gwneud hi’n orfodol dysgu am hanesion a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol mewn ysgolion, ddechrau cael ei gyflwyno ym mis Medi.

‘Creu ysgol gynhwysol’

Dywedodd Tracey Jarvis o Ysgol Uwchradd Llanwern: “Rydym yn hynod falch o fod yr ysgol gyntaf i dderbyn y wobr hon i gydnabod y gwaith rydym yn ei wneud i greu ysgol gynhwysol.

“Diolch i’n staff, llywodraethwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr am eu hymrwymiad i ddathlu amrywiaeth, sydd wedi’i wreiddio’n yn ein diwylliant o ddydd i ddydd.”

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles: “Mae safon yr enwebiadau eleni, fel erioed, wedi bod yn rhagorol ac yn dangos y doreth o dalent addysgu sydd gennym yma yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn arbennig o braf gweld Gwobr gyntaf Betty Campbell MBE yn cael ei chyflwyno, cyn i’r Cwricwlwm newydd gael ei addysgu o fis Medi.”

‘Gall breuddwydion ddod yn wir’

Ymysg yr enillwyr y gwobrau eraill roedd Meurig Jones, Pennaeth Ysgol Uwchradd Llangynwyd, Maesteg a enillodd y wobr ar gyfer Pennaeth y Flwyddyn.

“Brwydrodd fy rhieni dros addysg Gymraeg i mi, ac mae’r wobr hon yn profi y gall breuddwydion ddod yn wir,” meddai.

“Mae’n fraint bod yn bennaeth ac mae’r wobr hon i bawb sy’n cyfrannu at lwyddiant ein hysgol, o’n dysgwyr, rhieni a gofalwyr i’n llywodraethwyr a’n staff anhygoel.

“Byddaf yn parhau i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad a dewis o ran eu taith addysg.”

Enillwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2022:

Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd

Charmaine Riley, Ysgol Gynradd Radyr, Radyr

Athro Newydd Eithriadol

Holly Gordon, Ysgol Bryn Derw, Casnewydd

Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg

Iona Llŷr, Addysg a Gwasanaethau Plant – Cyngor Sir Caerfyrddin

Cefnogi Athrawon a Dysgwyr

Carolyn Platt, Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn

Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion a’r Gymuned

Christian Williams, Ysgol Gyfun Heolddu, Caerffili

Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd

Mark Morgan, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful

Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol

Claire Coakley, Ysgol Martin Sant, Caerffili

Pennaeth y Flwyddyn

Meurig Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg

Gwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau

Laura Buffee, Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, Hwlffordd

Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig 

Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd