Mae un o Aelodau’r Senedd Plaid Cymru yn galw am gydraddoldeb i bobol ag anableddau yn ystod Mis Balchder Anabledd.
Dywed Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, fod gwahaniaethu yn erbyn pobol ag anableddau o hyd, ac mae’n cefnogi ymdrechion i greu sefyllfa decach.
Mae Mis Balchder Anabledd yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, ac mae’n rhoi cyfle i ddathlu’r gymuned anabl a thynnu sylw at faterion y mae pobol ag anableddau yn eu hwynebu bob dydd.
Yn ôl ymchwil seneddol Pobol Anabl mewn Cyflogaeth, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2021, dim ond 52.3% o bobol ag anableddau sydd mewn cyflogaeth o’i gymharu ag 82% o’r boblogaeth abl.
Yn ôl data o 2020, roedd y bwlch cyflog i bobol ag anableddau yn 18% yng Nghymru.
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod menywod ag anableddau yn tueddu i gael eu heffeithio fwyaf gan y bwlch cyflog hwn, gan ennill 36% yn llai ar gyfartaledd na menywod heb anableddau.
Mae dynion ag anableddau yn ennill £2.15 yr awr yn llai, ar gyfartaledd, na’u cydweithwyr heb anableddau.
‘Anghyfiawnder’
Yn ôl Peredur Owen Griffiths, mae Mis Balchder Anabledd yn rhoi cyfle i ddathlu pobol ag anableddau a’u cyfraniad i gymdeithas.
“Mae hefyd yn ein hatgoffa o’r anawsterau y maen nhw’n dal i’w hwynebu er gwaethaf deddfwriaeth fel Deddf Cydraddoldeb (2010) sydd i fod i hyrwyddo cyflog cyfartal a lefelau cyflogaeth gyfartal ymhlith pobol ag anableddau a phobol heb anableddau,” meddai.
“Nid ydym eto wedi creu’r chwarae teg hwnnw.
“Rwy’n gobeithio yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod y byddwn yn gweld cydraddoli mewn lefelau cyflog a lefelau cyflogaeth rhwng pobol ag anableddau a’r rhai heb.
“Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r mater o oedolion ag anableddau sydd angen gofal canolfan ddydd ond nad ydynt yn ei gael, yn dal heb ei ddatrys.
“Nid yw oedolion sy’n agored i niwed yn cael y ddarpariaeth y maen nhw’n ei haeddu, sy’n golygu nad yw eu teuluoedd yn cael seibiant digonol chwaith.
“Lansiwyd ymgynghoriad i ddyfodol gwasanaethau ond mae llawer o gwestiynau o hyd am hyn.
“Yn y cyfamser, mae oedolion ag anableddau a’u teuluoedd yn dioddef ac mae hyn yn anghyfiawnder.”