Mae elusennau yng Nghymru wedi galw am Gomisiynydd Menywod wrth i adroddiad dynnu sylw at rwystrau sylweddol i gydraddoldeb rhywedd.

Mae Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022, a luniwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhMC) Cymru ac Oxfam Cymru, yn asesu perfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwe maes allweddol i gydraddoldeb menywod yng Nghymru.

Yn ôl fersiwn eleni o’r cerdyn sgorio, mae llawer o waith angen ei wneud os yw Cymru am fod yn genedl ffeministaidd, a bodloni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Yn wahanol i’r fersiwn blaenorol o’r Cerdyn Sgorio a luniwyd cyn cyfyngiadau Covid-19 ym mis Chwefror 2020, mae’n glir nad oes llawer o gynnydd wedi’i wneud a bod y cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn fregus, gan fethu â gwrthsefyll pwysau’r pandemig a’r argyfwng costau byw parhaus.

Mae’r cerdyn sgorio, sy’n defnyddio system goleuadau traffig, yn tynnu sylw at y camau gweithredu sydd eu hangen i wella.

Mae meysydd megis cyfrifoldebau gofalu a chyllid deg angen sylw ar frys gan eu bod wedi gwaethygu o oren i goch ers yr adroddiad diwethaf, meddai’r ymchwil.

Mae’r coronafeirws wedi gwaethygu’r heriau y mae menywod a merched yn eu hwynebu ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau, yn enwedig i fenywod sy’n profi gwahaniaethu croestoriadol.

Mae RhCM Cymru ac Oxfam Cymru yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cymryd camau gweithredu cyflym a phenderfynol i sicrhau na fyddan nhw’n cael eu dal yn ôl am flynyddoedd i ddod.

Llwyth gwaith menywod yn ‘beryglus’

Dywed Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Cyhoeddwyd ein Cerdyn Sgorio blaenorol wrth i ni fynd i aflonyddwch digyffelyb byd-eang y pandemig.

“Dyma adeg lle y gwnaeth pawb weld y llwyth gwaith annheg ar fenywod; cyfrifoldeb a dyfodd wrth i fenywod ymwneud â llwyth gwaith cynyddol fel y prif ofalwyr yn ein cymdeithas.

“Nawr, mewn argyfwng costau byw byd-eang, mae llwyth gwaith menywod unwaith eto’n tyfu’n beryglus.”

Effeithio cenhedlaeth newydd o fenywod

Dywed Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: “Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru greu rôl Comisiynydd Menywod, a fyddai’n hyrwyddo ac yn warcheidwad menywod yng Nghymru, fel y mae’r Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn i’w hetholwyr.

“Byddai’r rôl yn darparu arweinyddiaeth drawslywodraethol ac yn helpu i waredu’r wreig-gasineb a’r anghydraddoldeb systemig y mae menywod yn eu hwynebu yng Nghymru.

“Os nad ydym yn gweithredu nawr, byddai cynnydd ar anghydraddoldeb rhywedd yn cael ei golli i genhedlaeth arall o fenywod.”

‘Eisiau Cymru gydradd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisiau Cymru lle mae “menywod a dynion yn gydradd, a lle mae gan bawb y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial”.

“Mae gennym ni bedwar comisiynydd, ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n cefnogi cydraddoldeb menywod a merched drwy eu gwaith amrywiol yn eu meysydd.

“Mae gennym ni ddau Gynghorydd Cenedlaethol sy’n helpu i wneud Cymru’n le mwy diogel i fod yn fenyw a thrydydd sector dylanwadol, sy’n helpu i osod yr agenda yng Nghymru ac yn cefnogi ein uchelgeisiau ehangach ar gyfer cydraddoldeb.

“Rydyn ni’n croesawu gwaith RhCM ar y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd, gan gynnwys y diweddariad diweddaraf. Byddan ni’n parhau i ymateb i’r gofynion hyn am weithredu ar sail groestoriadol.”