Bydd adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal i ystyried penderfyniad awdurdod lleol yn y de i gau tair ysgol Saesneg a sefydlu un ysgol Saesneg yn eu lle.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cau tair ysgol yn ardal Pontardawe, ysgolion cynradd Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg, a sefydlu un ysgol Saesneg ar safle Parc Ynysyderw.

Nawr, mae’r Uchel Lys yng Nghaerdydd wedi rhoi caniatâd i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg fwrw ymlaen ag adolygiad barnwrol i’r penderfyniad.

Mae’r sefyllfa wedi creu “cryn ofid” i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, sy’n dweud bod diffygion yn y ffordd y cafodd asesiadau iaith eu trin yn yr ymgynghoriadau.

Maen nhw’n herio penderfyniad y Cyngor ar dair sail:

  1. Mae’r penderfyniad yn mynd yn groes i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion gan na chafodd asesiad o effaith y cynnig ar y Gymraeg ac ysgolion Cymraeg yr ardal ei gynnwys yn y ddogfen ymgynghori wreiddiol.
  2. Darparodd y Cyngor asesiad effaith y cynnig ar y Gymraeg wedi diwedd y cyfnod ymgynghori statudol, ond ni chafwyd ymgynghoriad pellach ar yr asesiad hwn cyn i’r Cyngor gadarnhau ei dymuniad i fwrw ymlaen â’r cynllun.
  3. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad pellach yn trafod effaith y cynnig ar y Gymraeg ym mis Awst 2021, ar ôl y cyfnod ymgynghori statudol a’r cyfnod gwrthwynebu statudol. Ni chafwyd ymgynghoriad ar yr adroddiad pellach hwn cyn i’r Cabinet wneud ei benderfyniad, sydd, meddai Darwin Gray LLP, yn mynd yn groes i’r Cod ac i gyfraith sy’n dweud bod angen ymgynghoriad teg.

‘Cryn ofid’

Nid ar chwarae bach y penderfynodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg ddechrau cais barnwrol yn yr achos hwn, meddai Cyfarwyddwr Cenedlaethol y mudiad, Elin Maher.

“Rydym yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu inni fwrw ymlaen hefo’r adolygiad barnwrol, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn penderfyniad terfynol y Llys,” meddai.

“Mae’r sefyllfa wedi achosi cryn ofid inni fel mudiad, ac yn ehangach yn y gymuned ym Mhontardawe, yn arbennig gan fod y Cyngor eu hunain yn cydnabod fod yr ardal yn un o bwysigrwydd ieithyddol arwyddocaol.”

‘Dyletswydd i barchu rheolau’

Dywedodd Siôn Fôn, cyfreithiwr gyda Darwin Gray LLP, sy’n cynrychioli’r mudiad, eu bod nhw’n croesawu penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu iddyn nhw fwrw ymlaen gyda’r adolygiad barnwrol.

“Rydyn yn credu y bydd dehongliad pellach o Gôd Trefniadaeth Ysgolion o fudd i Awdurdodau Lleol ar hyd a lled Cymru,” meddai Siôn Fôn.

“Mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau fod rheolau llym o amgylch ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu parchu a bod yr holl faterion perthnasol yn cael ystyriaeth lawn gan y cyhoedd fel rhan o ymgynghoriad teg.

“Edrychwn ymlaen am benderfyniad terfynol yr Uchel Lys ynglŷn â’r achos arbennig yma yn y gwrandawiad ar 18 a 19 o Orffennaf 2022.”