Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi rhoi ei chefnogaeth i Sajid Javid yn ras arweinyddol y Blaid Geidwadol.

Hyd yn hyn, mae 10 o Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi cadarnhau eu bod nhw am drio cael eu hethol fel Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig.

Mae gan ymgeiswyr hyd at 6yh heno (Gorffennaf 12) i ddod o hyd i 20 o Aelodau Seneddol i gefnogi eu cais cyn i’r broses enwebu ddod i ben.

Wrth ddatgan ei chefnogaeth i Sajid Javid, cyn-Ysgrifennydd Iechyd a chyn-Ganghellor Llywodraeth San Steffan, dywedodd Virginia Crosbie y bydd yn “Brif Weinidog arbennig i’r Deyrnas Unedig i gyd ac, yn bwysicaf, i fy etholwyr”.

“Dw i’n credu mai ef sy’n deall pwysigrwydd a’r brys sydd i fuddsoddi mewn seilwaith ynni niwclear ac adnewyddadwy orau, ac mae’n cydnabod eu bod nhw’n allweddol er mwyn creu swyddi â sgiliau uchel a chyfleoedd hyfforddi mawr eu hangen ar ein hynys.

“Fe wnaeth Saj a’i wraig Laura fy nghefnogi pan oeddwn i’n Gyfarwyddwr Women2Win a fy helpu ar fy nhaith i ddod yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn.

“Fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fe wnes i weithio i Saj yn ystod y pandemig – yr argyfwng mwyaf mae’r wlad wedi’i wynebu ers yr Ail Ryfel Byd. Mae’n rhywun dw i’n ei barchu, a dw i’n gwybod y gallwn gydweithio.

“Ond yn bwysicach, dw i’n edmygu gonestrwydd Sajid. Dw i’n gwybod bod ganddo werthoedd moesol cryf yn ei arwain – rhywbeth sydd ei angen ar arweinydd ein plaid yn fwy nag erioed fel ein bod ni’n gallu uno a chydweithio er budd y wlad.”

Sajid Javid oedd y gweinidog cyntaf i ymddiswyddo’r wythnos ddiwethaf gan ddatgan ei fod yn anhapus ag arweinyddiaeth Boris Johnson.

Fe wnaeth Virginia Crosbie ymddiswyddo o’i rôl fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat o Swyddfa Cymru ychydig oriau wedyn gan ei bod hi’n teimlo bod sefyllfa Boris Johnson yn anghynaladwy.

Yr holl Aelodau Seneddol sydd wedi datgan eu bwriad i drio cael eu hethol fel Prif Weinidog ac Arweinydd y Blaid Geidwadol hyd yma yw:

  • Kemi Badenoch, cyn-weinidog cydraddoldeb
  • Suella Braverman, y Twrnai Cyffredinol
  • Rehman Chishti, gweinidog newydd y Swyddfa Dramor
  • Jeremy Hunt, cyn-Ysgrifennydd Iechyd
  • Sajid Javid, cyn-Ysgrifennydd Iechyd
  • Penny Mordaunt, gweinidog masnach
  • Rishi Sunak, cyn-Ganghellor
  • Liz Truss, yr Ysgrifennydd Tramor
  • Tom Tugendhat
  • Nadhim Zahwai, y Canghellor

Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yn ystyried rhoi ei henw ymlaen hefyd.

Roedd Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi cynnig ei enw hefyd, ond mae e bellach wedi tynnu’n ôl a chefnogi Rishi Sunak.

Yn ôl yr adroddiadau, bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 5.