Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud y dreth gyngor yng Nghymru yn decach.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai’r cynlluniau’n sicrhau dull mwy blaengar o gefnogi gwasanaethau lleol, gan gynnwys ysgolion, gofal cymdeithasol, plismona, gwasanaethau tân achub, a seilwaith ffyrdd.

Mae ymgynghoriad ar yr ailbrisiad treth cyngor cyntaf ers 20 mlynedd, fydd yn digwydd flwyddyn nesaf, yn dechrau heddiw (Gorffennaf 12).

Y cynigion

Mae’r dreth gyngor yn talu am oddeutu 20% o wariant cynghorau, ond mae’r system bresennol bron i ugain mlynedd ar ei hôl hi ac yn cyfrannu at anghydraddoldebau cyfoeth, meddai Llywodraeth Cymru.

Gall gwerth cartrefi yn y band treth uchaf fod naw gwaith yn fwy na gwerth cartrefi yn y band gwaelod, ac eto talu dim ond tair gwaith a hanner yn fwy o dreth gyngor.

Y weledigaeth sy’n cael ei lansio heddiw yw cyflwyno system sy’n ail-gydbwyso’r baich treth ar aelwydydd, a byddai’n cael ei diweddaru’n rheolaidd i sicrhau bod y dreth yn parhau i fod yn deg.

Mae’r cynigion yn cynnwys cynnal ymarfer ailbrisio ar bob un o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru i sicrhau bod prisiadau yn gyfoes a bod pobol yn talu’r swm priodol.

Byddai hyn yn galluogi bandiau gwahanol i gael eu creu gyda chyfraddau treth newydd yn cael eu dewis ar gyfer pob band, gan sicrhau treth decach.

‘Diweddaru’r system’

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, bod y ffordd mae’r dreth yn cael ei chodi ar y funud “yn cael effaith anghymesur ar bobol lai cefnog”.

“Bydd y diwygiadau hyn yn diweddaru system y dreth gyngor ac yn ei gwneud yn decach, gan olygu y bydd y dreth gyngor yn achosi llai o bryder i aelwydydd sy’n teimlo’r wasgfa ar eu cyllidebau.

“Nid bwriad y diwygiadau yw codi mwy o arian gan dalwyr y dreth gyngor yn gyffredinol oherwydd, er y gallai rhai pobl dalu mwy, byddai llawer o bobl eraill yn talu llai, a byddwn ni’n ystyried yr angen am drefniadau trosiannol ar gyfer unrhyw newidiadau.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y gwaith hwn yn sylweddol a bod gennym lawer iawn i’w wneud cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.

“Mae hi’n ddyddiau cynnar o ran y cynigion hyn felly byddwn i’n annog pobol i ddweud eu dweud drwy’r ymgynghoriad.”

‘Wedi hen ddyddio’

Mae diwygio’r dreth gyngor yn un o ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, bod y dreth “ymysg y ffurfiau mwyaf annheg o drethu ac mae wedi hen dyddio”.

“Mae’n rhoi baich trymach ar rai o’r aelwydydd sydd ag incwm is ac yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotaf Cymru,” meddai.

“Mae’n bryd ei gwneud yn decach ac mae’r cynigion yr ydyn ni wedi cytuno arnyn nhw yn cynnig cyfle i wneud yr union beth hwnnw.

“Y cynigion hyn yw’r cam cyntaf tuag at newid system y dreth gyngor a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol, drwy wneud y system yn decach a mwy blaengar wrth barhau i gefnogi’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.”

‘Rhaid arwain at degwch’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r ymgynghoriad, gan ddweud ei bod hi’n bwysig bod unrhyw newid yn arwain at degwch i drethdalwyr, ac nad yw’n arwain at drafferthion ariannol i neb.

“Mae’n rhaid i weinidogion ystyried sefyllfa’r rhai sydd ar incymau penodedig fel pensiynwyr ac ystyried unigolion sydd heb incwm sylweddol o gymharu â gwerth eu tŷ, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar mewn prisiau tai,” meddai Sam Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Lywodraeth Leol.

‘Angen mynd ymhellach’

Fodd bynnag, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud nad yw’r cynigion yn mynd ddigon pell nac yn creu newid systemig.

“Mae’n rhaid i’r diwygiadau fynd ymhellach nag ailbrisio a newid bandiau treth,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.

“Mae gen i bryderon difrifol y gallai’r cynigion frifo’r rhai y maen nhw’n trio eu helpu pe bai’r ailbrisio’n digwydd yn ystod cyfnod o chwyddiant difrifol mewn prisiau tai, fel sy’n digwydd nawr.”